CBDC yn taclo salwch meddwl wrth i gyn-chwaraewr rannu profiadau
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Owain Tudur Jones ei fod wedi dioddef cyfnodau o deimlo'n isel pan gafodd ei anafu yn ystod ei yrfa
Mae iechyd meddwl yn bwnc sy'n aml yn cael ei osgoi gan glybiau a chwaraewyr pêl-droed, yn ôl cyn-chwaraewr Cymru, Owain Tudur Jones.
Daw ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ffurfio partneriaeth gyda mudiad On The Head er mwyn ceisio taclo'r broblem o fewn y gamp yng Nghymru.
Mae astudiaethau yn awgrymu bod tua 35% o chwaraewyr wedi dioddef gyda salwch meddwl, ond mae ymchwiliad newydd wedi ei lansio i ddysgu mwy am y broblem o fewn cynghreiriau Cymru.
Yn ddiweddar, mae cyn-chwaraewr arall Cymru, David Cotterill, wedi rhannu ei brofiadau o iselder ac alcoholiaeth.
Tîm o seicolegwyr yw On The Head sy'n ceisio dysgu mwy am broblemau iechyd meddwl o fewn pêl-droed a chryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i chwaraewyr.
Cafodd y bartneriaeth gyda CBDC ei ffurfio ym mis Mai ac mae clybiau a chwaraewyr ar hyd cynghreiriau Cymru yn cael eu hannog i gwblhau holiadur fel rhan o'r ymchwil.

Mae astudiaethau yn awgrymu bod 35-38% o chwaraewyr pêl-droed wedi profi problemau iechyd meddwl
Yn ogystal â cheisio cryfhau'r gefnogaeth ar gyfer chwaraewyr presennol, mae On The Head yn edrych ar ffactorau sy'n effeithio unigolion sydd wedi ymddeol o'r gamp.
Mae Owain Tudur Jones yn gyn-chwaraewr rhyngwladol sydd wedi chwarae i glybiau yn cynnwys Abertawe, Norwich a Bangor.
Dywedodd wrth Cymru Fyw bod iechyd meddwl yn bwnc oedd yn cael ei osgoi gan glybiau a chwaraewyr ar bob lefel, oherwydd y diwylliant o fewn y byd pêl-droed.
"Yn aml rydych chi ofn mynd i ddweud wrth y rheolwr neu wrth aelodau o'r tîm hyfforddi rhag ofn iddo gael ei weld fel gwendid," meddai.
"Mae rheolwyr yn aml yn cael eu gweld fel yr alpha males mewn diwylliant sydd mor macho beth bynnag, felly yn aml roedd rhaid i chwaraewyr gario'r straen yma ar ben eu hunain."

Chwaraeodd Owain Tudur Jones dros Hibernian tua diwedd ei yrfa
Ychwanegodd bod pêl-droed, yn gyffredinol, ar ei hôl hi wrth ymdrin â materion iechyd meddwl, tra bod gan gampau eraill fel rygbi a phêl-droed Americanaidd agwedd llawer mwy agored.
"Doedd cael mynediad at seicolegwyr ddim yn gyffredin tan gyfnod ola' fy ngyrfa i, ond er tegwch mae pethau i'w weld yn gwella o ran yr agwedd yma.
"Tra'n chwarae mi wnes i orfod gwneud trefniadau fy hun i weld seicolegwr yn ystod cyfnod o anafiadau drwg...
'Cwmwl du'
"Ro'n i'n poeni am y ffordd roedd pobl yn fy mhortreadu fel injury prone, ac yn teimlo ofn cyn pob sesiwn ymarfer a phob gêm fy mod i am wneud pethau yn waeth.
"Cefais gyfnod isel iawn ar ôl symud i Hibernian. Oeddwn i'n byw mewn fflat budr, wedi symud i ffwrdd o'n ffrindiau ac roedd straen aruthrol yn cael ei roi ar fy nghorff pob tro roeddwn i'n camu i'r cae.
"Fesul un falle byswn i wedi gallu delio gyda rhain, ond roedd y cyfuniad fel cael cwmwl du uwch fy mhen oedd yn anodd iawn i'w ysgwyd."

Mae cyn-asgellwr Cymru, David Cotterill, eisoes wedi rhannu ei brofiadau o ddelio ag iselder
Cyn-bêl-droediwr arall sydd wedi rhannu ei brofiad o iselder a phoen meddwl yn y gorffennol yw David Cotterill.
Fe enillodd 24 o gapiau dros Gymru ac roedd yn aelod o garfan Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2016.
Dywedodd Cotterill wrth y BBC yn 2018 ei fod wedi brwydro yn erbyn iselder ers ei arddegau, a'i fod yn dewis peidio siarad am ei broblemau gyda rheolwyr neu gyd-chwaraewyr oherwydd pryder am y goblygiadau posib.
"Roedd gen i'r Aston Martin, y tŷ mawr, unrhywbeth yr oeddwn i eisiau - ond gallwch chi ddim helpu'r hyn sydd yn eich pen," meddai.
Ychwanegodd fod y byd pêl-droed yn cynnig rhywle i ddianc rhag ei broblemau yn hytrach na rhywle i ddelio â nhw.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Andrew Bethell, llefarydd ar ran On The Head, bod "angen bod yn fwy rhagweithiol wrth daclo'r broblem yn hytrach na disgwyl i rywbeth drwg ddigwydd cyn gweithredu".
"Mae nifer o bobl yn cymryd arno fod gan chwaraewyr pêl-droed lot o arian ac felly does dim rheswm iddyn nhw wynebu anawsterau. Mae'n rhaid i ni herio'r rhagdybiaethau hyn.
"Mae'n rhaid cofio bod chwaraewyr yn bobl hefyd - maen nhw'n dioddef yr un fath a chi neu fi.
"Mae chwaraewyr yn gallu wynebu nifer o heriau yn ystod eu gyrfa - anafiadau hir dymor, ansicrwydd gyda chytundebau, cyfnodau hir i ffwrdd o'u teuluoedd a'u ffrindiau neu gorfod ymddeol yn ifanc."
Nododd hefyd bod yr heriau hyn yn ychwanegol i'r sialensiau dydd i ddydd y gallen nhw eu hwynebu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2019
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2018