Clwb yn 'newid bywydau' pêl-droedwyr ag awtistiaeth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r clwb yn cynnig cyfeillgarwch a sbort i blant awtistig, yn ôl y sylfaenydd

Mae bod mewn grwpiau mawr a chyfathrebu wastad wedi bod yn anodd i Evan, sydd ag awtistiaeth.

I'r bachgen 12 oed, sydd wrth ei fodd a phêl-droed, roedd hyn yn gwneud cymryd rhan yn y gamp bron yn "amhosib".

Ond ar ôl cyfnod yn hyfforddi gydag Academi Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD) Cwm Wanderers, mae bellach wedi cael ei ddewis i dîm "prif ffrwd" y clwb.

Breuddwyd iddo ef a'i fam, a chyfle doedd y naill yn meddwl fyddai "erioed yn digwydd".

Yn ogystal â gwella ei sgiliau pêl-droed, mae wedi gwella ei sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol hefyd.

Ceisio codi £500,000

Mae'r clwb o Gwmtwrch yng Nghwm Tawe nawr yn ceisio codi £500,000 mewn blwyddyn i ddatblygu ei faes ymarfer er mwyn treblu mewn maint.

Ar hyn o bryd, mae ganddyn nhw 60 o blant a phobl ifanc ar y rhestr aros i ymuno.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Evan (canol) wedi gwneud ffrindiau newydd tra'n chwarae i Cwm Wanderers

Yn ôl sylfaenydd yr academi, Andrea Smith, fe fyddai'r datblygiad yn "newid bywydau'r teuluoedd a'r plant sy'n dod i'r academi".

Mab Andrea, Steffan, sydd hefyd ag awtistiaeth, wnaeth ei hysbrydoli i sefydlu'r clwb ym mis Medi 2017.

Maen nhw bellach yn hyfforddi 30 o blant a phobl ifanc rhwng pump a 18 oed o bob cwr o dde Cymru yn wythnosol.

Er bod y maes chwarae sydd gan y clwb ar hyn o bryd yn iawn pan mae'r tywydd yn braf, yn ystod misoedd y gaeaf mae'n rhaid i'r tîm ymarfer ar faes amlbwrpas, sydd ddim ar safle'r clwb.

'Problemau i rhieni'

"Mae hyn yn achosi problemau gyda'r plant achos dydyn nhw ddim yn hoffi lot o newid," meddai Andrea.

"Mae'n achosi problemau i'r rhieni hefyd. Signio nhw mewn a signio nhw mas - yr amser mae'n cymryd i wneud hynny.

"Felly ni ddim yn gallu cael mwy na 30 o blant yn yr academi ar yr un pryd achos yr amser mae'n cymryd i signio nhw mewn a mas."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Andrea Smith sefydlu clwb Cwm Wanderers ym mis Medi 2017

Yn ôl y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth mae tua 700,000 o oedolion a phlant awtistig yn y Deyrnas Unedig.

Mae dealltwriaeth a chynnal perthnasau, yn ogystal â newid mewn arferion yn gallu bod yn anodd i'r rheiny ar y sbectrwm awtistig.

Evan ydy'r cyntaf o'r academi i gael ei ddewis i brif ffrwd y clwb. Yn ôl ei fam, Stephanie Davies, ers ymuno â'r academi mae hi wedi gweld newid mawr ynddo.

'Hollol anhygoel'

"Mae cyfathrebu wastad wedi bod yn broblem ac yn her iddo fe, yn enwedig mewn grwpiau mawr," meddai.

"Mae pêl-droed o hyd wedi bod yn ddiddordeb mawr iddo fe, ond roedd darganfod tîm iddo'n amhosib.

"Fe wnaethon ni drio cymaint o opsiynau gwahanol, ond byth gyda llawer o lwyddiant, felly pan glywon ni am hwn, roedd yn anhygoel.

"Daethon ni yma a chael croeso mawr ac yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf mae wedi mynd o nerth i nerth.

"I chwarae bob dydd Sadwrn gyda phlant mae nawr yn galw'n ffrindiau, rhywbeth doedd o erioed wedi'i gael - mae'n hollol anhygoel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 60 o blant a phobl ifanc ar y rhestr aros i ymuno â Cwm Wanderers

Dywedodd Meleri Thomas o'r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth bod "llawer gormod o blant ac oedolion awtistig yn colli allan oherwydd diffyg dealltwriaeth o sut beth yw bod yn awtistig a sut allai hyn effeithio ar fwynhad rhywun o chwaraeon".

"Mae'r cynllun yma'n fenter leol grêt sy'n cefnogi plant a phobl ifanc awtistig i ddysgu sgiliau newydd, cael hwyl a chadw'n iach wrth chwarae pêl-droed.

"Fe allai gwell dealltwriaeth o awtistiaeth mewn chwaraeon, ac ar draws y gymdeithas, helpu trawsnewid bywydau nifer o bobl awtistig a'u teuluoedd yng Nghymru."

'Meddwl y byd i'r plant'

Byddai codi £500,000 mewn 12 mis yn gamp enfawr meddai Andrea, enillodd "menyw y flwyddyn" yng ngwobrau Lorraine Kelly yn 2018.

"Byddai'n meddwl y byd i'r plant yn ogystal â'r rhieni a phawb arall sy'n rhan o Cwm Wanderers," meddai.

"Ni'n lansio ymgyrch 'pound-a-pitch' o fewn yr wythnosau nesa. Y syniad yw, er enghraifft, pe bai pawb yng Nghymru dim ond yn rhoi £1, byddai hynny'n talu am y maes 4G chwe gwaith.

"Rhowch bunt a newidiwch fywyd, oherwydd dyna wnawn ni - newid bywydau'r teuluoedd a'r plant sy'n dod i'r academi trwy osod y maes 4G."