Symud gwaith Banksy i oriel newydd ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y darn celf ymddangos ar garej Ian Lewis ym mis Rhagfyr
Mae disgwyl i dîm o gontractwyr ddechrau ar y gwaith bedwar diwrnod o symud gwaith celf Banksy oddi ar wal garej ym Mhort Talbot.
Bydd y gwaith, sy'n werth miloedd o bunnau, yn cael ei symud i oriel newydd yn y dre o ddydd Mawrth.
Eisoes mae'r tîm sy'n gyfrifol am y gwaith wedi bod yn sôn am nosweithiau di-gwsg.
Bydd y gwaith yn dechrau am 08:00 ond mae contractwyr wedi bod yn paratoi at y gwaith ers wythnosau.
Fe ymddangosodd y graffiti ar garej y gweithiwr dur Ian Lewis dros nos yn ystod mis Rhagfyr y llynedd a chafodd ei werthu i berchennog oriel o Essex ym mis Ionawr.

Dave Williams sy'n gyfrifol am y tîm sydd wedi cael y dasg i wneud y gwaith
Dave Williams, rheolwr cytundebau, sydd wedi cael y gwaith o fod yng ngofal symud y gwaith i adeilad Tŷ'r Orsaf.
Mae'r wal wedi cael ei gorchuddio â resin er mwyn ei hatal rhag briwsioni ac mae ffrâm bren eisoes mewn lle i ddal y wal wrth iddi gael ei thorri'n rhydd.
Os yw'r cynlluniau yn digwydd fel maen nhw i fod, bydd craen yn cael ei ddefnyddio dydd Mercher i godi rhannau o'r wal doredig.
Yna bydd heddlu yn hebrwng lori enfawr a fydd yn cludo'r gwaith celf ar draws y dre.
Ddydd Iau a dydd Gwener mae disgwyl i'r tîm sicrhau bod y wal yn cael ei hamddiffyn a'i diogelu yn oriel John Brandler.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019