Cadw am roi statws gradd II i Gapel Coffa Capel Celyn

  • Cyhoeddwyd
Capel CelynFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Cadw yw rhoi statws gradd II i'r adeilad

Mae corff cadwraeth Cadw wedi cyhoeddi ei fwriad i restru Capel Coffa Capel Celyn ar sail ei ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol.

Mae ymgynghoriad ar restru'r adeilad, sydd wedi'i leoli ar lan Llyn Celyn, eisoes yn cael ei gynnal gyda'r nod o roi statws gradd II i'r capel.

Cafodd ei adeiladu gan ddefnyddio cerrig o adeiladau a gafodd eu dymchwel er mwyn adeiladu'r gronfa ddŵr - gan gynnwys y Capel Celyn gwreiddiol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, bod rhestru'r adeilad yn cydnabod "lle arwyddocaol Capel Celyn yn hanes diweddar Cymru".

Cafodd y capel coffa ei ddylunio gan y cerflunydd R.L. Gapper o Aberystwyth, ac mae bellach yn eiddo i Ddŵr Cymru.

Mae'r ardd goffa yn gartref i'r beddfeini gafodd eu symud o'r capel gwreiddiol ac mae'r waliau o'i hamgylch wedi'u gwneud o glogfeini o'r caeau - gan gynnwys y maen dyddio o'r capel gwreiddiol.

Cafodd cerrig lleol a oedd wedi cael eu hailgylchu eu defnyddio er mwyn rhoi gwreiddiau i'r adeilad ac mae'r ffenestr onglog nodedig wedi ei lleoli i edrych tuag at safle'r capel gwreiddiol.

Disgrifiad o’r llun,

Gwasanaeth datgorffori capel y pentref - y digwyddiad olaf yno cyn y boddi

Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Drwy restru'r adeilad mae ei ddiddordeb hanesyddol arbennig yn cael ei gydnabod.

"Mae hefyd yn cael ei gydnabod fel teyrnged hardd gan R.L. Gapper i Gapel Celyn, i'r gymuned a oedd yn byw yno ac i le arwyddocaol Capel Celyn yn hanes diweddar Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Bachgen bach o'r pentref, Deiniol Prysor Jones, yn chwarae yn adfeilion y capel

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: "Fel gwarcheidwaid yr adeilad, rydym yn croesawu cynlluniau i roi statws rhestredig i Gapel Coffa Capel Celyn

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr adeilad yn cael ei gynnal a'i wella fel ei fod yn parhau'n hygyrch i'r cyhoedd - ac rydym wedi bod yn gweithio gyda grwpiau ymgyrchu lleol a Cadw ar y ffordd orau o gyflawni hyn."

Mae Cadw o'r farn bod y capel "o ddiddordeb pensaernïol arbennig fel capel coffa, capel hardd sy'n gweddu i'r ardal o'i gwmpas - ac yn mynegi hanes yr adeilad mewn modd pwerus ond cynnil".

Mae'r ymgynghoriad ar restru Capel Celyn wedi dechrau, gyda'r nod o restru'r adeilad yn dilyn y cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod.