TB Sir Gaerfyrddin: Dim achos gweithredol ond 76 cudd
- Cyhoeddwyd
Ni chafodd achos gweithredol o twbercwlosis (TB) ei ddarganfod mewn rhaglen sgrinio yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Serch hynny, roedd 76 o achosion cudd o'r afiechyd wedi eu darganfod.
Dywedodd ICC nad yw'r math cudd yn heintus ac nad oes angen triniaeth frys.
Roedd y sgrinio yn dilyn 29 o achosion o'r clefyd yn ardal Llanelli, a marwolaeth un fenyw o'r haint.
1,400 wedi eu sgrinio
Cafodd dros 1,400 o bobl eu sgrinio dros dri diwrnod yn Llwynhendy fis Mehefin.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd pawb sy'n dangos arwyddion o'r math cudd o'r haint yn derbyn cyngor meddygol.
Dywedodd Dr Brendan Mason o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod TB cudd yn digwydd pan fydd "unigolion wedi'u heintio gan y germ sy'n achosi TB, ond nad oes ganddynt glefyd TB gweithredol".
"Nid ydynt yn heintus ac ni allant ledaenu haint TB i eraill, ac nid ydynt yn teimlo'n anhwylus nac yn dioddef unrhyw symptomau."
Dywedodd y gallai TB cudd ddatblygu i fod yn weithredol os yw'r bacteria yn lluosi yn y corff.
"Am y rheswm hwn, gall pobl sydd â haint TB cudd gael eu trin i'w hatal rhag datblygu clefyd TB."
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cysylltu gyda chleifion sydd angen rhagor o driniaeth a'u gwahodd i ymweld â'r ysbyty i drafod y canlyniadau a chynnal profion a'r driniaeth os oes angen.
Bydd rhagor o raglenni sgrinio yn cael eu cynnal ar gyfer rheiny sydd heb gael eu profi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2019
- Cyhoeddwyd31 Mai 2019
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019