Gadael Aber i ddiogelu teithwyr Llundain
- Cyhoeddwyd
Yn wreiddiol o ardal Comins Coch, ger Aberystwyth, mae Siwan Hayward wedi dringo'r rhengoedd yn un o sefydliadau mwyaf Llundain, Transport for London.
Mae hi bellach yn Gyfarwyddwr Cydymffurfio, Plismona a Gwasanaethau Stryd, ac yn ddiweddar wedi ei henwi ar restr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines i dderbyn OBE.
Ond sut mae rhywun a gafodd ei magu mewn tref ddiarffordd yng nghanolbarth Cymru yn dod i gael cyfrifoldeb dros ddiogelwch 11 miliwn o deithwyr yn ddyddiol ar un o rwydweithiau trafnidiaeth mwya'r byd?
Roedd Aberystwyth yn lle ffantastig i dyfu lan. Mae'n dref mor amrywiol ac egnïol, ac mae wir yn cael budd o gael prifysgol a chanolfan celfyddydol yno. Mae'n lle arbennig iawn.
Ond mae'n lle mor anghysbell - mae ganddo gysylltiadau trafnidiaeth ofnadwy. Byddwn ni'n mynd i'r Amwythig ar y trên bob hyn a hyn, ac i ni, dyna oedd y ddinas fawr ddrwg!
Dwi'n gallu edrych nôl nawr, gan fod gen i blant fy hun, a dwi methu meddwl am le gwell i gael dy fagu nag Aber. Ond pan ti'n ifanc, ac yn dibynnu ar dy rieni i fynd â ti i unrhywle, mae'n rhwystredig ac mae dy fyd di'n gyfyng iawn.
Dyna lle ddaeth fy obsesiwn gyda dinasoedd mawr, a sut maen nhw'n gweithio.
Felly dreuliais i eitha' tipyn o fy ieuenctid yn cynllwynio sut i adael Aber, a sut i stopio siarad gydag acen Gymreig - ac mi lwyddais i wneud y ddau.
Llundain oedd wastad yr uchelgais - a phan nes i symud yno, o'n i wir methu credu pa mor anhygoel oedd y system trafnidiaeth gyhoeddus - wir!
Pan nes i symud yno gynta', o'n i'n arfer neidio ar fws a gweld lle 'sa fe'n mynd â fi. Mae Llundain yn lle anhygoel, a gallai fod yn gartref i unrhyw un, i bawb - unwaith ti'n gyfarwydd â daearyddiaeth y lle a'r system drafnidiaeth, mae'n ddinas i ti, mi wyt ti'n berchen arni.
Nes i weld pa mor hanfodol ydi rôl trafnidiaeth mewn lle mor gymhleth a phoblog â Llundain, a dwi rhywsut wedi landio yn swydd fy mreuddwydion gyda TfL.
Rydyn ni'n cynnal gwasanaethau anhygoel bob dydd, ac rydych chi wir yn gweld a theimlo effaith y penderfyniadau rydych chi'n eu gwneud.
Mae gan Lundain un o systemau trafnidiaeth mwyaf diogel y byd.
Yn y 10 mlynedd rydw i wedi gweithio gyda TfL, rydyn ni wedi torri nifer y troseddau gan bron i 50%.
Bellach mae yna tua saith trosedd yn cael ei riportio i bob 1 miliwn taith. Mae'n ffigwr anhygoel o isel.
Fodd bynnag, rydyn ni'n gwybod fod yna dal lawer o droseddau sydd ddim yn cael eu riportio, ac ry'n ni'n rhedeg ymgyrchoedd enfawr i geisio annog pobl i riportio achosion o aflonyddu rhywiol ac unrhyw fathau o droseddau casineb.
Does yna ddim lle i hyn ar drafnidiaeth gyhoeddus o gwbl, ac rydyn ni'n ceisio'u taclo.
Rydw i bob amser wedi cael teimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol, dyletswydd dinesig a gwneud y peth iawn, a dwi'n meddwl fod gen i - a phobl fel fi, sy'n freintiedig, o deulu sefydlog ac ag addysg dda - gyfrifoldeb i ddefnyddio ein sgiliau a phrofiadau i wneud y byd yn lle gwell.
Cefais ddyrchafiad ym Medi 2018 a dod yn Gyfarwyddwr ac mae gen i bellach gyfrifoldebau ehangach ledled TfL.
Rydw i'n un o nifer fechan o gyfarwyddwr benywaidd yn TfL - yn 2018 roedd 25.5% ohonon ni - felly mae yna dal ffordd hir i fynd i wir adlewyrchu amrywiaeth Llundain.
Mae gen i gyfrifoldeb i ddangos i ferched y cyfleoedd a'r buddion o weithio yn y diwydiant trafnidiaeth - diwydiant sydd dal yn cael ei ystyried fel un i ddynion.
Rydw i'n arwain cynllun prentisiaeth sydd yn derbyn pobl ifanc yn syth ar ôl Lefel A, i weithio tuag at radd tra'n gweithio gyda ni.
Mae cyfleoedd mewn amrywiaeth o swyddi - rhai sy'n delio â'r cyhoedd, cynllunio, cyfathrebu, strategaeth... mae yna fwy o swyddi na dim ond gyrrwr trên neu beiriannydd.
Dwi'n aml yn eithaf di-flewyn-ar-dafod wrth herio aflonyddu rhywiol neu gambihafio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae hynny wedi golygu mod i yn y wasg yn aml.
Weithiau, os ydych chi'n siarad mas, mae'n rhaid i chi fod yn barod am feirniadaeth bersonol, ac mae hynny bendant yn wir gyda'r cyfryngau cymdeithasol y dyddiau yma.
Felly wrth gwrs, mae hynny'n anodd - mae yna lawer o bethau cas ac annifyr iawn wedi cael eu dweud amdana i.
Ond, yn ffodus, mae gen i gydweithwyr gwych sydd yn fy nghefnogi i ac yn fy annog i drio peidio'i gymryd ormod o ddifri'.
Rydw i a fy mhartner yn rhieni sydd yn gweithio llawn amser, ac mae'r amser gyda'r plant yn werthfawr iawn - felly mae amser glanhau'r tŷ yn brin a dwi byth yn llwyddo i fynd i'r gym…!
Ges i ddiagnosis o ganser y fron bum mlynedd yn ôl, a dwi dal in recovery o hynny, felly os wyt ti eisiau unrhywbeth i d'atgoffa di pa mor werthfawr ydi bywyd, a bod pob munud yn cyfri', mae gorfod wynebu dy farwoldeb dy hun wir yn gwneud hynny.
'Nes i adael Aber yn 18, felly gan mod i nawr bron yn 50, dwi wedi byw oddi yno yn hirach na fues i'n byw yno. Ond mae Cymru a Chymreictod yn bwysig i mi, ac mae hynny yn mynd yn fwy gwir wrth i mi fynd yn hŷn.
Mae gan fy mhlant - Carys a Tomos - berthynas gref gyda Chymru. Maen nhw'n galw eu hunain yn Gymry, er eu bod wedi cael eu geni yn Camden - y lle mwyaf canolog yn Llundain mwy neu lai - a'u magu yn Walthamstow!
Rydyn ni wrth ein boddau'n treulio amser yma - yn Aber, y traethau o amgylch Ynys Las a Dyffryn Dyfi, Machynlleth, a cherdded ym Mhumlumon.
Wrth gwrs, mae pobl yn cael trafferth gyda'r enw 'Siwan' drwy'r amser, ond mae hi'n grêt i gael enw Cymraeg unigryw. Mae gen ti gyfle i ddweud stori, a dwi'n falch iawn o gael dweud ei stori - y frenhines benderfynol honno - ac yn falch mai Siwan ydw i.
Hefyd o ddiddordeb: