'Peidiwch â dangos Love Island i'ch plant,' medd prifathro
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth ysgol gynradd yn Sir Gâr wedi ysgrifennu at rieni i ofyn iddyn nhw sicrhau nad yw eu plant yn gwylio'r gyfres deledu Love Island.
Yn ei lythyr mae Aled Rees, Pennaeth Ysgol Teilo Sant, Llandeilo, yn dweud "nad yw plant ysgol gynradd yn ddigon aeddfed i wylio rhaglen o'r math yma, ble mae delwedd pobl yn bwysicach na'u sylwedd a'u personoliaeth".
Cafodd Mr Rees ei ysgogi i ysgrifennu'r llythyr at rieni ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod rhai plant mor ifanc â wyth oed wedi bod yn ei wylio, a'u bod nhw wedyn wedi bod yn galw enwau ar ei gilydd ar yr iard.
Dywed y llythyr bod plant yn "chwarae gemau oedd yn golygu eu bod yn paru gyda'i gilydd ar y sail sut oedden nhw'n edrych yn hytrach nac ar eu cymeriad".
Mae'r rhaglen, sydd wedi cael ei anelu at bobl 16-34 oed, yn cael ei ddarlledu ar sianel ITV2 o nos Sul i nos Wener dros gyfnod o wyth wythnos, ac arni mae dynion a merched yn penderfynu paru gyda chymar.
Mae Mr Rees yn dweud hefyd nad ydy'r "unigolion yma yn unrhyw fath o fodel rôl ar gyfer ein plant" a'i fod yn annog rhieni i "ystyried eto p'innau yw y rhaglen, yr iaith, a'i natur rhywiol wir yn rhywbeth yr ydych am i'ch plant ei weld, ei glywed a'i efelychu".
Dywedodd Mr Rees wrth BBC Cymru: "Mae'r plant yn profi rhaglen adre gyda'i rhieni, neu weithiau wrth gwrs ar eu pen eu hunain drwy catch-up, ond ni fel ysgol sydd wedyn yn delio gyda'r hyn sy'n dod o hynny.
"Mae'r plant, 'y ni'n dadlau, ddim yn ddigon emosiynol i fod yn gwylio rhaglenni o'r math yma," meddai, "maen nhw ar bwrpas ymlaen am 21:00; mae'n adeg ble 'y ni'n draddodiadol yn derbyn bod yna gynnwys sydd ddim yn addas ar gyfer y bobl ifancaf yn ein plith ni ar yr adeg hynny."
Mae nifer o Gymry wedi ymddangos ar y rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn 2017 fe enillodd Amber Davies o Ddinbych y gyfres gyda'i phartner ar y pryd, Kem Cetinay, gan ennill £50,000 rhyngddyn nhw.
Y llynedd roedd Cymro arall, Alex George, doctor o Sir Gaerfyrddin ymhlith y cystadleuwyr mwyaf poblogaidd.
Ond mae nifer o bobl hefyd wedi beirniadu'r gyfres am gyfleu delweddau 'ffug' o fywydau pobl ifanc, ac am glamoreiddio cael lliw haul.
Yn ôl ITV, mae Love Island wedi ei greu yn bennaf ar gyfer pobl rhwng 16-34 oed, a gan fod y rhaglen yn cael ei dangos wedi 21:00 nid yw wedi ei anelu at blant ysgol gynradd.
Rhieni'n gefnogol
Wrth siarad gyda BBC Cymru dywedodd nifer fawr o rieni eu bod nhw'n cytuno gyda'r hyn yr oedd y pennaeth, Mr Rees, yn ceisio'i wneud drwy anfon llythyr atyn nhw.
"Fi'n deall beth mae'n trio gwneud," meddai un rhiant, "s'mo fi'n cytuno gyda plant wyth blwydd oed yn gwylio programme fel 'na, gyda beth sy'n mynd ymlaen ynddo."
Dywedodd un cyn-riant yn yr ysgol, Carolyn Crayford: "Fi'n cyd-fynd â'r pennaeth a beth ma' fe wedi'i 'neud yn ysgrifennu at rieni achos mae'r rhaglen yn anaddas i blant ysgol gynradd.
"Dwi'n ei wylio fe nawr ac yn y man, ond... [d]yle plant ddim fod yn gwylio fe, yn enwedig ar ôl naw o'r gloch y nos."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2019