Marwolaeth bwa croes: Apêl heddlu am yrwyr tri char
- Cyhoeddwyd

Bu farw Gerald Corrigan dair wythnos ar ôl cael ei saethu y tu allan i'w gartref
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth pensiynwr o Ynys Môn a gafodd ei saethu gyda bwa croes yn ceisio dod o hyd i berchnogion tri char.
Cafodd Gerald Corrigan, 74, ei saethu y tu allan i'w gartref yng Nghaergybi ar 19 Ebrill a bu farw mewn ysbyty yn Stoke ar 11 Mai.
Mae dyn 38 oed o Fryngwran, Terence Michael Whall, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ac mae tri dyn arall wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae Heddlu Gogledd Cymru nawr yn gofyn am gymorth y cyhoedd i ddod o hyd i berchnogion tri cherbyd a gafodd eu gweld yn teithio ar hyd Ffordd Porthdafarch, Caergybi rhwng 23:00 nos Iau, 18 Ebrill a 01:00 ddydd Gwener, 19 Ebrill.
Mae Darren Jones, 41, Gavin Jones, 36 a Martin Roberts, 34, wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder trwy losgi car.

Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau CCTV o'r cerbydau sy'n destun yr apêl ddiweddaraf am gymorth y cyhoedd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2019