'Angen dros £50m ar wella ysbyty i osgoi risg i gleifion'
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwario o leiaf £50m ar wella cyflwr Ysbyty Maelor Wrecsam i osgoi risg i gleifion, yn ôl adroddiad o flaen aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddydd Iau.
Yn ôl yr adroddiad mae angen gwario hyd at £60m yn fuan er mwyn parhau â gwasanaethau presennol yr ysbyty dros y 10 mlynedd nesaf.
Bob blwyddyn mae'r ysbyty'n trin 35,000 o gleifion mewnol a thros 260,000 o gleifion allanol.
Daw'r rhybudd yn sgil pryder cynyddol am gyflwr adeiladau, offer a gwasanaethau'r safle.
Dywedodd cyfarwyddwr ystadau a chyfleusterau'r bwrdd, Rob Taylor: "Mae graddfa ac ystod gweithgaredd clinigol y safle'n golygu na fyddai'r Bwrdd Iechyd yn gallu diwallu anghenion gofal iechyd y boblogaeth petai rhan sylweddol o'r safle ddim yn weithredol mwyach."
Ychwanegodd bod yna "risg uchel a chynyddol o fethiant corfforol yn yr ysbyty, allai effeithio'n niweidiol ar ofal cleifion" .
Peiriannau'n 'torri i lawr yn aml'
Mae'r adroddiad yn nodi bod "cyflwr gwael y safle ar y cyfan" yn golygu bod peiriannau yn heneiddio ac" yn torri i lawr yn aml".
Ers 2017 mae'r cyflenwad trydan wedi ei dorri yn gyfan gwbwl deirgwaith oherwydd methiannau ceblau foltedd uchel, ac mae problemau wedi bod gyda chyflenwadau dŵr tap, gwresogi a nwy.
Mae gan y safle sawl generadur wrth gefn ac mae'n costio £700,000 bob blwyddyn ar gynnal a chadw'r campws, ond mae'r adroddiad yn dweud bod y risg o fethiannau yn cynyddu.
Ym Medi 2017, bu'n rhaid cau'r uned endosgopi am fod y to'n gollwng a'r system awyru wedi torri - cam a effeithiodd ar dros 840 o gleifion.
Dywed yr adroddiad y byddai'r effaith wedi bod "yn waeth o lawer petai'r Bwrdd Iechyd heb rentu theatr yn Lloegr a llogi dwy theatr symudol, ar gost o £1.6m".
£5.2m oedd cost cyfalaf adfer y gwasanaeth yn Ysbyty Maelor.
Mae yna amcangyfrif y byddai'n costio £284m i uwchraddio'r ysbyty i'r safonau mwyaf diweddar, o'i gymharu â £209m i wella Ysbyty Gwynedd, Bangor a £86m yn achos Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, lle mae gwaith adnewyddu eisoes wedi ei gwblhau.
O risg ddamcaniaethol i fethiannau rheolaidd
Mae cofrestr risg y bwrdd yn rhestru dros 40 o faterion brys gan nodi bod yna risg "o fethu â darparu adeiladau diogel sy'n cydymffurfio â'r canllawiau".
Dywed: "Wrth i amser fynd rhagddo, mae'r tebygolrwydd o ragor o fethiannau, a methiannau mwy difrifol, ond yn mynd i gynyddu heb fuddsoddiad sylweddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd28 Medi 2017
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd20 Medi 2018