Gwelliannau i ofal iechyd 'ddim yn ddigon cyflym'

  • Cyhoeddwyd
Meddyg teulu

Er gwaethaf buddsoddiad sylweddol a llawer o gynlluniau i drawsnewid gofal sylfaenol dros y blynyddoedd, nid yw newid wedi digwydd mor gyflym nac mor eang ag a fwriadwyd, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol yng Nghymru.

Dywedodd Adrian Crompton bod angen i newid ddigwydd yn gyflymach ac ar raddfa fwy i fynd i'r afael â heriau hirsefydlog a sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae pwysau cynyddol ar y model gofal sylfaenol traddodiadol o hyd ac mae cleifion yn profi anawsterau parhaus wrth geisio cael apwyntiadau gyda meddyg teulu.

Fe wnaeth cyfran y bobl oedd yn ei chael yn anodd cael apwyntiad ostwng ychydig o 42% yn 2017-18 i 40% yn 2018-19, er bod y lefel hon yn dal i fod yn achos pryder ac yn amrywio ledled Cymru.

Nifer o ddatblygiadau

Dros y blynyddoedd diwethaf bu nifer o ddatblygiadau sydd wedi ceisio cryfhau'r modd y caiff gwasanaethau gofal sylfaenol eu cynllunio a'u darparu yng Nghymru.

Mae Model Gofal Sylfaenol newydd ar gyfer Cymru wedi esblygu, gan hybu datblygiad timau gofal sylfaenol i leihau'r pwysau ar feddygon teulu ac i wella mynediad a gwasanaethau ar gyfer cleifion.

Ond ym marn yr archwilydd, bratiog fu'r cynnydd o ran rhoi'r model ar waith ac mae angen i newid ddigwydd yn gyflymach.

Ychwanegodd fod angen ymgysylltu gwell â'r cyhoedd i sicrhau eu bod yn deall y ffyrdd newydd o weithio.

Ffynhonnell y llun, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adrian Crompton bod y gwelliannau i ofal sylfaenol wedi bod yn "gyfyngedig"

Dywedodd Mr Crompton: "Mae gan wasanaethau gofal sylfaenol rôl hanfodol yn y system iechyd a gofal yng Nghymru.

"Er y bu ystod o gynlluniau i ddatblygu gofal sylfaenol, cyfyngedig fu'r cynnydd o ran rhoi'r cynlluniau hyn ar waith ac nid yw gofal sylfaenol wastad wedi cael proffil digon uchel o fewn y GIG yng Nghymru.

"Rhaid i hyn newid, ac mae angen i'r model newydd a ragwelir ar gyfer gofal sylfaenol gael ei gyflwyno'n gyflymach ac ar raddfa fwy, a chan ymgysylltu'n briodol â staff a defnyddwyr gwasanaethau.

"Bydd methu â gwneud hynny'n creu heriau gwirioneddol i gynaliadwyedd y gwasanaethau hanfodol hyn."