Sesiynau cwnsela i 11,000 o bobl ifanc yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
plentyn yn crioFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe gafodd dros 11,000 o bobl ifanc sesiynau cwnsela i ddelio â phryderon yn 2017-18, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Maen nhw hefyd wedi amcangyfrif bod tua thri phlentyn ym mhob dosbarth ar gyfartaledd yn delio â phroblem iechyd meddwl.

Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi ymgynghoriad er mwyn ceisio taclo'r problemau hynny.

Dywedodd elusen Barnado's Cymru fod cynnydd o 56% wedi bod yn nifer y plant maen nhw wedi'u helpu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mwy o arian

Yn 2018-19 fe wnaeth yr elusen helpu dros 1,000 o blant drwy eu gwasanaethau cynghori yn yr ysgol, sesiynau therapi, a chefnogaeth i adfer ar ôl trawma.

Maen nhw hefyd yn dweud bod 3,500 o bobl ifanc yng Nghymru yn dioddef o iselder dwys, gyda 13% yn hunan-niweidio - a'r risg yn uwch i'r rheiny sydd wedi bod mewn gofal neu wedi dioddef trawma er enghraifft.

"Mae problemau pobl ifanc yn cael eu gwaethygu gan y nifer cynyddol o deuluoedd sy'n chwalu, y pwysau sy'n dod oherwydd tlodi, a thwf cyfryngau cymdeithasol sydd wedi arwain at fwlio ar-lein a phwysau i edrych neu ymddwyn mewn ffordd benodol," meddai cyfarwyddwr Barnado's Cymru, Sarah Crawley.

Yn ôl Betsan Roberts, 17, sy'n aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, mae'r twf mewn problemau iechyd meddwl ymhlith plant yn "bryderus iawn".

Ffynhonnell y llun, Betsan Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Ysgol Glantaf wedi bod yn rhan o ymgyrch Hello Yellow i godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at helpu iechyd meddwl pobl ifanc

Ychwanegodd bod ysgolion yn aml yn gorfod delio â'r problemau eu hunain, ac i rai pobl ifanc fe allan nhw fod yn aros hyd at chwe mis am arbenigwr os nad ydyn nhw'n cael eu hystyried yn achos brys.

Mae wedi galw am fwy o fuddsoddiad er mwyn taclo hynny.

"Mae ysgolion yn cymryd y peth mwy o ddifri' nawr," meddai Betsan, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Glantaf.

"Yn fy ysgol i, os 'dych chi'n dioddef yn wael o orbryder, does dim rhaid i chi eistedd yn y neuadd ar gyfer arholiadau ac mae'r athrawon yn dod o hyd i 'stafell dawelach i chi."

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £626,000 i gynghorau i ddelio â rhestrau aros am gymorth iechyd meddwl, a hefyd eisiau datblygu gwasanaeth cynghori ar-lein i gyd-fynd â chymorth wyneb i wyneb.

"Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn rhoi lles wrth galon ein cwricwlwm, gan gefnogi ein plant a phobl ifanc i fod yn unigolion iach a hyderus, sy'n cryfhau eu lles emosiynol a meddyliol wrth ddatblygu hyder, dycnwch ac empathi," meddai Ms Williams.