Bwrdd iechyd yn talu ymgynghorydd £2,000 y dydd i arbed arian

  • Cyhoeddwyd
betsi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod dan fesurau arbennig ers 2015

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau eu bod yn talu £1,990 y dydd i ymgynghorydd rheoli er mwyn cynorthwyo i wella gwasanaethau yn y gogledd.

Mae Philip Burns yn cael ei gyflogi fel "cyfarwyddwr adfer interim" ac mae'r bwrdd wedi clustnodi mwy na £350,000 er mwyn talu ei gostau.

Wrth ymateb dywedodd y bwrdd ei fod yn talu pris y farchnad am yr arbenigedd sydd ei angen i wneud arbedion a gwella gwasanaethau i gleifion.

Fe wnaeth pwyllgor o Aelodau Cynulliad argymell fod angen arbenigwyr allanol i ddod i mewn i wneud gwelliannau yn y bwrdd, sydd wedi bod dan fesurau arbennig ers 2015.

Cafodd Mr Burns ei benodi yng Ngorffennaf eleni drwy gwmni ymgynghorwyr gofal iechyd Hunter Healthcare. Y gyllideb ar gyfer y naw mis y bydd yn y swydd yw £360,990.

Cadarnhaodd y bwrdd iechyd ei fod yn gweithio pum niwrnod yr wythnos, gan gynnwys un diwrnod o adref, er nad oedden nhw'n fodlon cadarnhau lle mae ei gartref.

Daeth y ffigyrau i law o ganlyniad i gais dan y ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan yr AC Plaid Cymru Llŷr Gruffydd.

Maen nhw'n datgelu hefyd fod pedwar cyfarwyddwr arall dros dro wedi cael eu penodi drwy gwmnïau ymgynghori allanol gyda chyllideb i'r pedwar o £538,440.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth y wybodaeth i law yn dilyn cais gan Llŷr Gruffydd AC

Dywedodd Mr Gruffydd: "Roeddwn i'n bryderus am sibrydion o fewn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod y cyfarwyddwr adfer interim Philp Burns, a gafodd ei benodi i oruchwylio arbedion, yn ennill bron £2,000 y dydd, gan gynnwys un diwrnod o weithio o adre.

"Rwy'n deall ei fod yn goruchwylio'r newid arfaethedig i rotas nyrsys, sydd wedi bod yn ddadleuol dros ben ac sydd yn ceisio arbed £25,000 y mis o fil cyflog nyrsys asiantaeth y bwrdd.

"Os yw hynny'n wir, yna mae cynllun y bwrdd i newid rotas y nyrsys yn arbed llai nag y maen nhw'n talu i'r un person yma bob mis.

"Mae angen gofyn cwestiynau pellach am benderfyniadau'r bwrdd rheoli a'u defnydd o ymgynghorwyr allanol sy'n ennill cyflogau anferthol."

Ymateb y bwrdd iechyd

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Ein blaenoriaeth yw gwneud gwelliannau sylweddol yn ein gofal iechyd ar y pryd, gofal sydd wedi'i gynllunio a rheoli ariannol. Er mwyn cyflawni hyn rydym wedi cryfhau ein harbenigedd presennol yn y meysydd yma.

"Mae staff interim wedi eu penodi yn unol â'n gorchmynion ariannol er mwyn gwneud swyddi penodol am gyfnod byr.

"Roedd penodi cyfarwyddwr adfer yn un o argymhellion Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, a alwodd am fwy o adnoddau i gael eu rhoi i newid pethau, gan gynnwys dod ag arbenigwyr allanol i mewn.

"Mae yna bris i'r farchnad am y lefel yma o arbenigedd, a dyna beth yr ydym yn ei dalu."