Galw am fwy o gefnogaeth iechyd meddwl i gleifion anabl

  • Cyhoeddwyd
Dr Nair-Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Nair-Roberts yn gweithio fel gwyddonydd niwrolegol pan newidiodd ei bywyd am byth

Mae menyw o Gaerdydd sydd â salwch difrifol yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl oherwydd anabledd corfforol.

Yn ôl Dr Radha Nair-Roberts, dylai'r Gwasanaeth Iechyd gyfeirio pobl at weithgareddau cymdeithasol, yn hytrach na chynnig moddion iechyd meddwl fel yr unig ateb.

Dywedodd elusen Mind Cymru fod triniaethau o'r fath yn opsiwn mwy cynaliadwy 'na throi at foddion ar frys.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1.3 miliwn mewn dau gynllun peilot presgripsiynau cymdeithasol.

"Neb ishe bod yn styc yn eu tai"

Roedd Dr Nair-Roberts yn gweithio fel gwyddonydd niwrolegol pan newidiodd ei bywyd am byth.

Yn 2015, fe wnaeth ei chyflwr, sglerosis ymledol (MS), waethygu nes iddi golli'r teimlad mewn un rhan o'i chorff ac yn ddibynnol ar gadair olwyn.

Wrth ddygymod â'i chyflwr, dechreuodd deimlo'n isel ei hysbryd a chafodd foddion gwrth iselder gan ei meddyg.

Ond wrth i'r moddion wneud iddi deimlo'n waeth, sylwodd mai mynd allan i'w chymuned i fynd i weithgareddau oedd y feddyginiaeth orau iddi hi.

Disgrifiad,

Fideo: Radha Nair-Roberts a'i gŵr Tegid yn sôn am eu profiad o fyw gyda MS

"Odd y moddion yn ofnadwy. Roedden nhw'n gwneud imi deimlo'n gysglyd o hyd. Dim poen, dim poeni am ddim byd, ond dim yma.

"A dwi'n gwybod fod gen i gymaint llawer i gynnig fel pob person gydag anabledd.

"Dydy neb ishe bod yn styc yn eu tai nhw yn edrych ar waliau - mae pobol gydag anabledd yn haeddu mynd allan hefyd. Ni jest ishe bod yn bobol, sydd efo diddordebau a phethau maen nhw'n hoffi gwneud. Mae bod adre yn edrych ar bedair wal yn gwneud yr anabledd yn waeth".

Fe all presgripsiynau cymdeithasol gynnwys gweithgareddau fel canu mewn côr, garddio, neu weithgareddau sy'n cynnwys cwrdd â phobl yn eich cymuned.

Fe wnaeth Dr Radha a'i gŵr, Tegid, gychwyn eu sefydliad eu hunain sy'n annog pobl ag anableddau corfforol i ymwneud mewn gweithgareddau fel ymarfer corff.

Chafodd Dr Radha ddim cynnig presgripsiwn cymdeithasol pan oedd hi'n ymweld â'i meddyg, ond mae hi am weld hynny yn newid.

"Fel person gydag anabledd corfforol, 'dw i ddim yn teimlo fod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i bobl fel fi fynd allan i'w cymuned a gwneud gweithgareddau maen nhw'n hoffi," meddai Dr Radha.

Cynllun peilot

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod hi wedi ymrwymo i wella mynediad i wasanaethau iechyd meddwl.

Mae dau gynllun peilot presgripsiynau cymdeithasol mewn lle yng Nghymru sy'n rhan o fuddsoddiad gwerth £1.3 miliwn gan y Llywodraeth.

Mae presgripsiynau cymdeithasol yn parhau mewn camau peilot oherwydd diffyg ymchwil ddigonol, yn ôl ymgynghorydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Mae 'na ddiffyg studies ar y raddfa sydd angen yn achos y byd iechyd i gyfiawnhau buddsoddiad," meddai Sara Thomas.

"Mae 'na rai adroddiadau ble mae'r galwad wedi gostwng o ryw 28% ar wasanaethau meddyg teulu, ond mae fe'n anodd profi hwn ar raddfa fwy."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sara Moseley o elusen Mind fod "hi'n bwysig iawn fod rhywun yn gallu gofyn: be sy'n bwysig ichi?"

Un elusen sydd wedi derbyn cyllid gan y Llywodraeth ar gyfer cynllun peilot triniaeth o'r fath yw Mind Cymru.

Dywedodd eu cyfarwyddwr, Sara Moseley fod "hi'n bwysig iawn fod rhywun yn gallu eistedd lawr efo chi a gofyn: be sy'n bwysig ichi?"

"Dydy o ddim yn golygu na fydd na neb angen help pellach, ond dw i'n credu fod o'n rhywbeth lot fwy cynaliadwy na falle ar frys, rhoi presgripsiwn am driniaeth iselder, a dyna ni."