Gwrthdrawiad awyren angheuol Rhaglan yn 'ddamwain'

  • Cyhoeddwyd
Martin Bishop a Roderick WeaverFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Martin Bishop a Roderick Weaver yn y ddamwain ym mis Mehefin 2018

Mae rheithgor mewn cwest i farwolaeth dau ddyn fu farw wedi i awyren ysgafn daro'r ddaear wedi dod i'r casgliad mai damwain oedd y digwyddiad.

Bu farw Martin Bishop, 61 oed o'r Fenni, a Roderick Weaver, 68 o Gaerdydd, yn y digwyddiad ger Rhaglan ym mis Mehefin y llynedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Tre'r-gaer, ac yn ôl Heddlu Gwent roedd dau ddyn wedi marw yn y fan a'r lle.

Daeth y rheithgor yn y cwest i'r casgliad eu bod wedi marw ar ôl i'r awyren fechan blymio yn ystod sesiwn ymarfer glanio mewn argyfwng.

Roedd Mr Weaver, oedd yn gymwys i ddysgu pobl i hedfan, wedi mynd â Mr Bishop ar daith ymarfer.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd sawl tyst wedi gweld yr awyren ysgafn yn hedfan yn isel dros gaeau

Clywodd y rheithgor fod y math yma o sesiynau yn hanfodol er mwyn dysgu sut i lanio mewn argyfwng.

Dywedodd tystion eu bod wedi clywed sŵn modur yr awyren ysgafn yn methu ac fe welodd rhai'r awyren yn hedfan yn isel dros gaeau cyfagos.

Yn ôl adroddiad gan batholegydd roedd y ddau ddyn wedi marw o ganlyniad i'w hanafiadau ar ôl i'r awyren fechan daro coeden ar ôl plymio, cyn disgyn i'r ddaear.

Yn ôl y crwner, Caroline Saunders, pe bai ganddi fynediad at focs du'r awyren, yna fe allai mwy o wybodaeth fod ar gael i egluro amgylchiadau'r ddamwain yn well.