Alun Wyn Jones yw Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru 2019

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, BBC Cymru

Alun Wyn Jones, capten tîm rygbi Cymru, sydd wedi'i goroni'n Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2019.

Enillodd Jones, 34, y bleidlais gyhoeddus wedi iddo arwain Cymru i Gamp Lawn yn y Chwe Gwlad, cyn iddo gael ei enwi'n chwaraewr y gystadleuaeth.

Fe arweiniodd y clo ei wlad i rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan hefyd.

Yn ystod 2019 hefyd, fe enillodd Jones gap rhif 134 dros ei wlad - sy'n record.

Dywedodd: "Roedd cael fy enwebu ymhlith y talent arall a oedd hefyd ar y rhestr yn fraint ynddo'i hun", meddai.

"Mae'n deimlad eithaf arbennig, nid yn unig i mi ond i fy nghyd-chwaraewyr, fy nheulu... mae'n beth mawr.

"Dwi yn teimlo y dylen i fod yma [ar y llwyfan] gyda 35-40 o fois eraill, a bod yn onest, achos mewn undeb mae nerth."

Disgrifiad,

Rhys Patchell: Alun Wyn Jones yn gawr o ddyn

Y taflwr maen, Sabrina Fortune ddaeth yn ail wedi iddi ennill tlws ym Mhencampwriaethau Paralympaidd y Byd am y tro cyntaf.

Jade Jones oedd yn drydydd ar ôl iddi ennill aur am y tro cyntaf ym Mhencampwriaethau Taekwondo'r Byd.

Hollie Arnold, Elinor Barker, Menna Fitzpatrick, Hannah Mills a Lauren Price oedd y rhai eraill ar y rhestr fer eleni.

Rygbi yn rhagori

Tîm cenedlaethol rygbi Cymru gafodd eu henwi fel Tîm y Flwyddyn ar ôl cipio'r Gamp Lawn a chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd.

Hyfforddwr y tîm, Warren Gatland enillodd wobr Hyfforddwr y Flwyddyn.

Ers iddo gymryd y swydd nôl yn 2007 mae Cymru wedi ennill pedwar teitl Chwe Gwlad, gan gynnwys tair Camp Lawn, ac wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2011 ac yn 2019.

Hefyd heno, enillodd y bocsiwr Joe Calzaghe Wobr Cyflawniad Oes am ei gyfraniad i'r gamp.

Athletwr Ifanc y Flwyddyn Carwyn James yw'r canŵydd 18 oed Etienne Chappell, a phencampwr y byd rasio MotoCross cadair olwyn Lily Rice, 15, hawliodd deitl Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James.

Disgrifiad o’r llun,

"Heb fy nghoes, Mia ydw i o hyd, ond heb chwaraeon, nid Mia ydw i"

Mia Lloyd hawliodd deitl Person Ysbrydoledig y Flwyddyn 2019.

Mae'r ferch 12 oed sydd wedi goroesi canser a cholli ei choes uwchben y pen-glin, bellach yn cymryd rhan mewn athletau, pêl-fasged cadair olwyn, nofio, golff, dringo, sgïo a phara-seiclo.

Cafodd yr holl enillwyr eu gwobrwyo yn seremoni Gwobrau Chwaraeon Cymru yn y Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.

Y seiclwr Geraint Thomas ddaeth i'r brig y llynedd yn dilyn blwyddyn ddisglair ble llwyddodd i ennill y Tour de France am y tro cyntaf.

Agorodd pleidleisio ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2019 am 07:30 ddydd Llun, 2 Rhagfyr a chau am 18:00 ddydd Sul, 8 Rhagfyr.

Nid yw'r digwyddiad hwn yn gysylltiedig â Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y DU ac mae ar gyfer gwobr Cymru yn unig.