Sala: Bygwth gwahardd Caerdydd rhag arwyddo chwaraewyr

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caerdydd yn mynnu nad oedd Sala wedi'i gofrestru'n swyddogol fel eu chwaraewr nhw pan fu farw

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn wynebu cael eu gwahardd rhag arwyddo chwaraewyr nes haf 2021 os nad ydyn nhw'n talu ffi am Emiliano Sala.

Bu farw'r Archentwr 28 oed mewn damwain awyren ym mis Ionawr tra'n teithio o Nantes i Gaerdydd.

Ym mis Medi fe wnaeth Fifa orchymyn Caerdydd i dalu rhan gyntaf y ffi o £15m oedd wedi'i gytuno rhwng y ddau glwb am yr ymosodwr - ychydig dros £5m.

Mae'r corff nawr yn dweud y bydd Caerdydd yn cael eu gwahardd rhag cofrestru unrhyw chwaraewyr newydd am y tair ffenestr drosglwyddo nesaf os nad ydyn nhw'n talu Nantes o fewn 45 diwrnod.

Ond mae Caerdydd wedi dweud y byddan nhw'n apelio yn erbyn y penderfyniad yn y pythefnos nesaf.

'Trosglwyddiad wedi'i gwblhau'

Mae'r clwb yn mynnu nad oedd Sala wedi'i gofrestru'n swyddogol fel eu chwaraewr nhw pan fu farw, ac wedi gwrthod talu unrhyw swm amdano hyd yn hyn.

Ond dywedodd adroddiad Fifa bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cwblhau'r gwaith ar drosglwyddiad Sala lai na dwy awr cyn i'r awyren ddechrau ar ei thaith o Ffrainc.

"Mae'n rhaid ystyried trosglwyddiad y chwaraewr o Nantes i Gaerdydd fel un oedd wedi'i gwblhau'n ddilys. Felly, roedd y chwaraewr yn un o glwb Caerdydd," meddai.

Aeth yr awyren, oedd yn cynnwys Sala a'r peilot David Ibbotson, 59, i drafferthion dros Fôr Udd ar 21 Ionawr - deuddydd wedi i Gaerdydd ei gyhoeddi fel eu chwaraewr nhw.

Cafodd corff y pêl-droediwr ei ganfod yng ngweddillion yr awyren ond mae Mr Ibbotson yn parhau ar goll.