Achos bwa croes: Rheithgor yn dechrau ystyried dyfarniad
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheithgor yn achos llofruddiaeth y pensiynwr o Gaergybi, Gerald Corrigan, wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.
Mae Terence Whall, 39 oed o Fryngwran, Ynys Môn, yn gwadu saethu Mr Corrigan gyda bwa croes fis Ebrill y llynedd.
Bu farw'r cyn-ddarlithydd 74 oed mewn ysbyty yn Stoke ar 11 Mai ar ôl cael ei saethu yn yr oriau mân ar 19 Ebrill wrth drwsio lloeren deledu ar wal ei dŷ.
Mae Mr Whall hefyd yn gwadu cynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynllwynio i gynnau tân yn fwriadol - cyhuddiad yn ymwneud â llosgi car Land Rover Discovery.
Mae ail ddiffynnydd - Gavin Jones, sy'n 36 oed ac o Fangor - wedi pledio'n ddieuog i gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.
Plediodd dau ddyn arall - Martin Roberts a Darren Jones - yn euog i gynnau tân yn fwriadol yn gynharach yn yr achos.
Fe wnaeth y rheithgor ddechrau ystyried y dystiolaeth wedi i'r barnwr yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug orffen crynhoi'r achos yn gynnar brynhawn Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd11 Mai 2019