Disgyblion cyfrwng Cymraeg dan 'anfantais ddybryd'

  • Cyhoeddwyd
Llyfr

Mae disgyblion cyfrwng Cymraeg o dan "anfantais ddybryd" am fod un o werslyfrau Hanes Safon Uwch ar gael yn Saesneg yn unig - dyna farn athrawon a disgyblion sy'n astudio'r pwnc.

Mae cyhoeddwr y llyfr, Hodder wedi dweud y bydd fersiwn Gymraeg ar gael erbyn mis Awst 2020, union flwyddyn ers cyhoeddi'r un Saesneg.

Mae'r Llyfr Dehongliadau Hanesyddol, Uned 5 yn amlinellu'r gofynion ar gyfer y gwaith cwrs ym Mlwyddyn 13.

I Alaw Evans, sy'n astudio'r cwrs eleni, mae'n hollbwysig fod yr holl adnoddau ar gael yn y Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alaw Evans yn credu y dylai'r holl werslyfrau perthnasol fod ar gael yn Gymraeg

"Mae Uned 5 yn uned sy'n llawer mwy annibynnol, na gweddill y cwrs Hanes, oherwydd mae'r athrawon yn cymryd rôl fwy arweiniol," meddai.

"Ac felly, ni fel disgyblion yn disgwyl mynd ati yn fwy annibynnol, sy'n golygu fod yr adnoddau ni'n derbyn yn werthfawr iawn i ni."

Ag yntau'n bennaeth adran y dyniaethau yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul, mae Hedd Ladd Lewis wedi cwyno wrth gorff arholi CBAC, gan nodi fod y sefyllfa yn gwbl annerbyniol.

"Mae myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sydd newydd ddechrau paratoi, ymchwilio ac ysgrifennu'r uned yma o dan anfantais ddybryd," meddai.

"Dwi'n teimlo fod angen i CBAC fynd i'r afael â'r broblem yma a sicrhau fod disgyblion sy'n sefyll eu pynciau trwy'r Gymraeg yn cael pob tegwch."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Pencadlys CBAC yng Nghaerdydd

Pan gysylltodd â CBAC, cafodd wybod nad oedd y gan y mater unrhyw beth i'w wneud â'r corff arholi.

"Er bod WJEC yn ymddangos ar glawr y llyfr, ges i wybod taw menter annibynnol oedd hi, ac o'n i ddim yn deall hyn yn iawn.

"Mae'n rhaid fod rhywun oddi mewn i CBAC sydd â phrofiad o'r fanyleb wedi rhoi rhyw fath o gymorth," meddai.

Mae CBAC yn pwysleisio na chafodd y llyfr o dan y teitl 'WJEC A Level History' ei gymeradwyo ganddyn nhw.

A dim ond wedi iddyn nhw gael eu comisiynu gan y llywodraeth y byddan nhw'n gweithio gyda chyhoeddwyr ar ddeunydd sydd heb ei gymeradwyo.

Disgrifiad o’r llun,

Hedd Ladd Lewis yw pennaeth adran y dyniaethau yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul

Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad cyhoeddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer myfyrwyr ac athrawon. Nid yw CBAC wedi cymeradwyo'r llyfrau dan sylw.

"Ni allwn felly wneud sylw ar eu cynnwys nac ar amserlen eu cyhoeddi. Rydym bob amser yn ymrwymo i gefnogi datblygiad cyhoeddiadau cyfrwng Cymraeg i'w defnyddio gan fyfyrwyr ac athrawon a chawsom ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gyfieithu'r llyfrau hyn."

Dyw'r sefyllfa bresennol ddim yn dderbyniol, meddai Hedd Ladd Lewis: "Dwi ddim yn meddwl rhyw lawer o'r broses - mi fyddai'n hollol onest... Mae hyn 'di bod yn digwydd ers nifer fawr o flynyddoedd, a dyw e ddim fel pe bai CBAC 'di mynd i'r afael â'r her yma.

"Mae modd gyda nhw i reoli'r broses hon i sicrhau fod myfyrwyr Cymraeg yn cael chwarae teg.

"Falle bod rhywun sy' â dim cyswllt â CBAC wedi cyhoeddi'r llyfr yma, ond ma' raid i CBAC ymateb er budd disgyblion Cymraeg eu hiaith."

Dywedodd swyddog yn adran hanes CBAC wrth Hedd Ladd Lewis nad oedd modd i'r corff arholi fod o unrhyw gymorth ar y mater hwn.

Ond pan gysylltodd BBC Cymru â CBAC, fe ddywedwyd y byddai fersiynau drafft cyfrwng Cymraeg ar gael i'w lawrlwytho o'u gwefan ddiogel o fis Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Alaw Evans yn astudio

Dri mis cyn ei harholiadau terfynol, mae hynny'n rhy hwyr i Alaw Evans: "Mae angen yr adnoddau 'ma trwy'r Gymraeg. Ond i fi'n bersonol, byddai siŵr o fod 'di gorffen fy ngwaith Uned 5 erbyn hynny, felly ni fydd hynny o fudd i fi. Ond yn sicr, i'r flwyddyn nesaf, ma' hynny'n gam yn y cyfeiriad cywir."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynyddu eu buddsoddiad ym maes gwerslyfrau Cymraeg i £1.25m eleni.

"Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu seilwaith newydd yng Nghymru i gynhyrchu adnoddau yn y ddwy iaith, ar yr un pryd, yn y dyfodol.

"Mae'r Gweinidog (Addysg) wedi bod yn glir gyda CBAC am eu cyfrifoldebau i ddysgwyr yng Nghymru."