Nifer 'trychinebus' o farwolaethau mewn cartref nyrsio

  • Cyhoeddwyd
Tregwilym LodgeFfynhonnell y llun, Karen Healey
Disgrifiad o’r llun,

Mae cartref Tregwilym Lodge yn darparu gofal ar gyfer trigolion gyda dementia

Mae cartref nyrsio wedi colli 15 o drigolion mewn mis yn dilyn cyfnod "trychinebus" meddai'r rheolwr.

Roedd 14 o'r preswylwyr oedrannus yn Tregwilym Lodge yn Nhŷ-du ger Casnewydd a fu farw yn dioddef o symptomau Covid-19, ond ni phrofwyd yr un ohonynt.

Dywedodd y rheolwr cyffredinol Karen Healey y byddai disgwyl i un neu ddau o drigolion farw mewn mis arferol.

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru taw'r polisi nawr oedd i brofi holl breswylwyr cartrefi gofal â symptomau coronafirws.

Ar ddechrau'r cyfnod, roedd gan y cartref 73 o breswylwyr â dementia.

Dywedodd Mrs Healey, nyrs am 40 mlynedd, fod Covid-19 wedi'i enwi fel achos marwolaeth ar dystysgrifau marwolaeth dau berson, ond bod gan 14 beswch a thymheredd uchel.

"O safbwynt staffio a gofal mae wedi bod yn drychinebus," meddai.

"Ond yn bwysicach fyth mae'r golled ddwys a'r niferoedd rydyn ni wedi bod yn delio â nhw - a'r teuluoedd - wedi bod yn gwbl anghredadwy.

"Dydyn ni erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg iddo lle rydyn ni wedi colli cymaint mor gyflym."

Straen i deuluoedd

Dywedodd iddi ofyn i'r gwasanaeth iechyd gynnal profion ddiwedd mis Mawrth.

Ond cymerodd tan 7 Ebrill i dri pherson gael eu profi. Roedd dau wedi profi'n bositif ac ni chafwyd canlyniad i'r trydydd. Mae'r tri yn fyw.

Dywedodd ei bod yn straen i deuluoedd - sydd heb gael cyfle i ymweld â pherthnasau mewn cartrefi gofal - i golli rhywun heb wybod os oedd ganddyn nhw coronafeirws.

"Felly bu'n rhaid i mi gael sgyrsiau anodd iawn gyda'r teuluoedd gan ddweud 'rwy'n credu bod eich anwylyd wedi marw o Covid, ond ni allaf ei gadarnhau'," meddai.

Mae'r cartref yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, a ddaeth i'r amlwg yn gynnar fel ardal gyda nifer uchel o achosion o coronafeirws.

Mae 23 aelod o staff Tregwilym wedi cael symptomau'r afiechyd, meddai Mrs Healey, gyda pump wedi profi'n bositif.

Mae modd archebu profion ar gyfer gweithwyr allweddol ymlaen llaw yn Stadiwm Dinas Caerdydd neu yn Rodney Parade yng Nghasnewydd.

Ffynhonnell y llun, Karen Healey
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Karen Healey bod y cartref wedi dioddef "colledion dwys."

Ond dywedodd Mrs Healey fod hynny'n "iawn os oes ganddyn nhw geir ond mewn gwirionedd mae llawer o staff gofal cymdeithasol ar yr isafswm cyflog ac yn methu â fforddio ceir".

Fe wnaeth hi ganmol ei staff a dywedodd fod y bwrdd iechyd lleol wedi bod yn gefnogol iawn, ond roedd hi'n teimlo bod cartrefi nyrsio wedi'u hanwybyddu.

"Mae'n teimlo fel ein bod ni wedi cyrraedd y brig, ond rwy'n bryderus dweud hynny oherwydd nad ydyn ni'n gwybod sut mae'r feirws hwn yn ymddwyn," meddai.

Dywedodd y prif swyddog meddygol wrth fyrddau iechyd lleol ar Ebrill 23 y dylid profi holl breswylwyr cartrefi gofal sydd â symptomau.

Pwy sy'n cael eu profi?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dylai pob gweithiwr cartref gofal symptomatig (ac aelodau symptomatig o'u cartref) gael eu cyfeirio i'w profi, gan eu cyflogwr.

"Mae holl breswylwyr cartrefi gofal sy'n dychwelyd o'r ysbyty bellach yn cael eu profi fel mater o drefn hefyd.

"Ynghyd â mesurau a rhagofalon eraill, mae'r dystiolaeth gyfredol yn dangos mai dyma'r ffordd orau i atal y firws rhag lledaenu a chadw preswylwyr a staff yn ddiogel."