Galw am hyfforddi rhagor o feddygon gofal dwys
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder y bydd prinder sylweddol o feddygon gofal dwys yng Nghymru os na fydd yna ragor o hyfforddiant yn cael ei gynnig.
Yn ôl Dr Jack Parry-Jones, sy'n ymgynghorydd gofal dwys yn y de-ddwyrain, roedd yna brinder meddygon yn y rhan fwyaf o unedau gofal dwys Cymru cyn i'r pandemig coronafeirws daro.
Mae'n galw am ragor o lefydd hyfforddi i feddygon gofal dwys yn ogystal ag uwchraddio'r unedau eu hunain.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), y corff sy'n gyfrifol am hyfforddi meddygon, yn dweud bod yna "gynnydd cynaliadwy" wedi bod mewn llefydd hyfforddi.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i wella faint o ofal dwys y gellid ei gynnig ar draws Cymru.
"Mae'r Gweinidog Iechyd hefyd wedi llunio rhaglen ar gyfer gwella gofal critigol gan gynnwys cyllid o £15m. Mae gofal critigol hefyd yn rhan o'n ymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw."
'Swyddi ddim wedi'u llenwi'n iawn'
Yn ôl Dr Parry-Jones, sydd hefyd yn aelod o fwrdd Cyfadran Meddygaeth Gofal Dwys, mae unedau wedi eu staffio gan feddygon sydd ddim o anghenraid yn arbenigwyr mewn meddygaeth gofal dwys.
"Mae'r rhan fwyaf o unedau yn brin o feddygon sy'n arbenigo mewn meddygaeth gofal dwys. Mae hynny yn wir ymhlith ymgynghorwyr a meddygon ifanc," meddai.
"Y peth pwysig i'w nodi ydy nad ydy hanner y swyddi gofal dwys yn cael eu llenwi'n iawn.
"Beth rwy'n ei olygu ydy bod y rhan fwyaf o unedau gofal dwys Cymru, o dro i dro, yn gorfod defnyddio meddygon sydd ddim wedi eu hyfforddi yn y math yma o ofal er mwyn llenwi eu rotas.
"Fe fyddai'r shifftiau gwag yn tueddu i gael eu llenwi gan anesthetyddion ymgynghorol sydd â phrofiad o weithio mewn unedau gofal dwys yn hytrach nag ymgynghorwyr gofal dwys sydd wedi cael eu hyfforddi yn llawn a phasio arholiadau."
'Cynnydd mewn hyfforddiant'
Mae'r corff GIG sy'n gyfrifol am hyfforddi meddygon, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn dweud bod yna welliant wedi bod yn ddiweddar yn y llefydd sydd ar gael i hyfforddi meddygon gofal dwys.
"Ers 2017 'dan ni wedi cynyddu nifer o lefydd parhaol i hyfforddi arbenigwyr mewn gofal dwys o 58%," meddai'r Athro Pushpinder Magnta, cyfarwyddwr meddygol AaGIC.
"Mae hwn yn gynllun sy'n gweld cynnydd cynaliadwy.
"Ry'n ni wedi parhau'r cynllun yma gyda llefydd newydd ar gyfer meddygon newydd eleni a chynllun i gynyddu nifer y llefydd y flwyddyn nesaf.
"Hefyd, 'dan ni wedi cynyddu nifer y llefydd hyfforddi mewnol sy'n golygu pob blwyddyn bydd 39 o feddygon dan hyfforddiant yng Nghymru yn gweithio ac yn ennill profiad mewn unedau gofal dwys ar draws Cymru."
Er yn cydnabod bod nifer y meddygon sy'n cael eu hyfforddi mewn meddygaeth gofal dwys wedi cynyddu, mae Dr Jack Parry-Jones yn dal i fynnu bod yna brinder sylweddol.
"Mae 'na brinder sylweddol oherwydd bod yna ddiffyg arbenigwyr yn y lle cyntaf ac, wrth gwrs, mae 'na ymgynghorwyr yn ymddeol drwy'r amser.
"Yn y pen draw fe fydd 'na gyfyngiadau ar faint o feddygon y bydd hi'n bosib i'w hyfforddi ar yr un pryd," meddai. "Ond ar hyn o bryd dyw hynny ddim yn broblem."
Gwasanaethau dan bwysau
Dywedodd Angela Burns AS, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, bod yn rhaid ymateb i'r bylchau staffio ar draws y Gwasanaeth Iechyd er mwyn cwrdd â'r gofyn.
"Gyda thristwch, dwi'n meddwl mai nid y pandemig yma ydy'r unig adeg y byddwn ni dan y fath bwysau. Felly mae'n rhaid i ni ei gwneud hi'n gwbl sicr y gallwn ni wella'r adnoddau ry'n ni eu hangen."
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf heddiw
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Mae'r Dr Parry-Jones yn credu bydd yn rhaid uwchraddio yr unedau eu hunain i gyrraedd yr un safon â'r uned fydd yn Ysbyty Prifysgol Grange fydd yn agor yn Llanfrechfa ger Cwmbrân y flwyddyn nesaf.
"Fe fydd yna uned yno gyda 30 o welyau gofal dwys, pob un ohonyn nhw wedi eu hynysu. Fe fyddai'r math yna o fuddsoddiad sydd wedi ei wneud gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn gwneud byd o wahaniaeth," ychwanegodd Dr Parry-Jones.
"Yn amlwg mae angen yr un math o fuddsoddiad gan fyrddau iechyd eraill yn eu hunedau gofal dwys. Mae'r uned fwyaf yng Nghaerdydd ond 'chydig iawn o adnoddau ynysu sydd yno. Mae angen buddsoddi yno i ddod â'r uned i'r unfed ganrif a'r hugain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Mai 2020