Dros 1,600 o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos fod 1,641 o farwolaethau wedi bod yng Nghymru hyd yn hyn lle mae Covid-19 wedi bod yn ffactor.
Mae'r ffigyrau diweddaraf ond yn cynnwys achosion lle'r oedd cadarnhad neu amheuaeth fod coronafeirws yn bresennol hyd at 9 Mai.
Roedd 281 yn fwy o farwolaethau yn ymwneud a Covid-19 yn ystod yr wythnos dan sylw - sydd yn 30% o'r holl farwolaethau yng Nghymru.
Cartrefi gofal
Roedd un o bob tri o'r marwolaethau hyn mewn cartrefi gofal yn yr wythnos ddiwethaf, ond ers i'r pandemig ddechrau mae'r ganran wedi bod yn 24%.
Mae nifer y marwolaethau drwyddi draw o bob achos wedi gostwng yng Nghymru o'r wythnos flaenorol i 929 - ond mae hyn yn dal yn 305 yn fwy o farwolaethau na'r cyfartaledd wythnosol dros gyfnod o bum mlynedd.
Ardal Caerdydd sydd wedi gweld y nifer uchaf o farwolaethau Covid-19 - 265 - gydag ardal Rhondda Cynon Taf nesaf hefo 201 o farwolaethau.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn rhannu Cymru a Lloegr i ranbarthau wrth ddadansoddi data, gan ddisgrifio Cymru fel rhanbarth.
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Wrth gymharu nifer y marwolaethau Covid-19 fesul rhanbarth, Cymru oedd yr ardal a'r nifer isaf ond un o farwolaethau coronafeirws am yr wythnos dan sylw.
Dim ond gogledd ddwyrain Lloegr, o'r deg ardal i gyd, oedd gyda llai o achosion na Chymru.
Am y tro cyntaf ers dechrau'r argyfwng fe welodd pob un rhanbarth ostyngiad y niferoedd y marwolaethau Covid-19.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020