Pam nad yw llyfrgelloedd Cymru wedi ailagor eto?
- Cyhoeddwyd
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn dweud na fyddan nhw'n brysio i agor er bod hawl ganddyn nhw wneud hynny.
Fe gyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y gallai llyfrgelloedd agor fel rhan o'r cam cyntaf o lacio mymryn ar y cyfyngiadau coronafeirws.
Tra bod canolfannau ailgylchu eisoes wedi dechrau ailagor, nid felly'r llyfrgelloedd.
Cysylltodd Cymru Fyw â nifer o gynghorau sir Cymru, a'r neges yw eu bod yn cydweithio i geisio gweld sut y gallan nhw ailddechrau cynnig eu gwasanaethau.
Pryderon lledu'r haint
Pryder mwyaf y sefydliadau yw sicrhau diogelwch wrth i adnoddau fel llyfrau newid dwylo. Mae'n debyg na fydd llyfrgelloedd yn cynnig yr un lefel o wasanaeth ag yr oedden nhw cyn i haint y coronafeirws ledu.
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i lyfrgelloedd ystyried ailagor.
"Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Cymru i adnabod y ffordd orau o wneud hyn yn ddiogel a chyfrifol," meddai. "Tan hynny fe fydd ein hadeiladau'n parhau ar gau."
Dywedodd yr awdures Bethan Gwanas ei bod methu aros i'r llyfrgelloedd ailagor.
"Mi wnes i fachu tomen o lyfrau a llyfrau sain o'r llyfrgell jest cyn iddyn nhw gau, ond mae'r rheiny wedi eu hen ddarllen bellach a dwi wir yn gweld isio fy llyfrgell yn Nolgellau," meddai.
"Dwi wedi prynu llyfrau dros y we yn y cyfamser, ond dwi ddim isio prynu gormod achos mae gen i gannoedd - naci, miloedd - yn y tŷ 'ma fel mae hi.
"A deud y gwir, wnes i ebostio'r llyfrgell ddoe i holi oedd ganddyn nhw unrhyw syniad pryd fydden nhw'n agor eto. Nag oedd. Y siom.
"Dwi'n poeni dim am ddiogelwch yno achos dwi'n cymryd mai archebu dros y we a jest picio i'w casglu nhw fyddwn ni ar y dechrau beth bynnag.
"Mi fyddan nhw wedi trefnu pethau fel ei bod hi'n ddiogel i'r staff ac i ni, a dwi jest ar bigau drain isio blincin archebu fy llyfrau rŵan!"
Mae Morgan Dafydd, wedi sefydlu gwefan ddwyieithog - Sôn am Lyfra - yn ddiweddar, fel rhywle i blant, pobl ifanc a rhieni drin a thrafod a darllen adolygiadau o lyfrau Cymraeg.
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen yn arw at weld y llyfrgelloedd yn ailagor.
"Tydi rhywun ddim yn sylwi cymaint yr ydan ni angen rhywbeth nes mae o wedi mynd," meddai.
"Mae llyfrgelloedd yn cyflawni gwaith hollbwysig yn ein cymunedau, a byddai'n niweidiol iawn petaen nhw'n aros ar gau.
"Wrth gwrs, mae siopau llyfrau yn hollbwysig, ond mae llyfrgell yn cynnig cymaint mwy na gallu benthyg llyfrau - mae 'na weithgareddau, dosbarthiadau a digwyddiadau cymdeithasol pwysig eraill yn digwydd yno."
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Ychwanegodd: "Mi fydd 'na wastad bryder am ledaenu'r feirws ond mae o yma yn ein byd ni rŵan ac yma i aros. Yr her fwyaf fydd i ni addasu i fyw gyda'r feirws.
"Gyda pholisi hylendid cadarn, dwi'n siŵr y gallan nhw sicrhau bod y llyfrau'n cael eu diheintio i raddau.
"Y broblem fwyaf wrth gwrs fydd niferoedd mawr o bobl yn ymgasglu mewn un man.
"Bydd yn rhaid i ni newid ein harferion o ran hynny a disgwyl am arweiniad pellach gan y Llywodraeth ar beth fydd yn dderbyniol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020