Coronafeirws: Dros 2,000 wedi marw yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y marwolaethau yng Nghymru sy'n ymwneud â'r coronafeirws bellach dros 2,000, yn ôl gwybodaeth ddiweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
2,007 oedd cyfanswm y marwolaethau hyd at 15 Mai, oedd wedi eu cofnodi erbyn 23 Mai.
Cafodd 180 o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19 eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 15 Mai - sy'n is na'r 211 o'r wythnos flaenorol. Mae'r ffigwr yn cynrychioli 23.3% o holl farwolaethau'r wythnos.
Mae ffigyrau'r ONS yn uwch na rhai Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gofnododd gyfanswm o 1,282 o farwolaethau Covid-19 hyd at ddydd Mawrth.
O edrych ar nifer y "marwolaethau ychwanegol" - sef faint yn fwy sy'n marw'n gyffredinol ar hyn o bryd o'i gymharu â'r patrwm hanesyddol - cafwyd 772 marwolaeth yn yr wythnos ddiwethaf. Mae hynny'n 137 yn uwch na'r cyfartaledd dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Roedd 67 o farwolaethau lle roedd y feirws yn ffactor mewn cartrefi gofal - llai na ffigwr yr wythnos flaenorol, sef 76.
Caerdydd â'r nifer uchaf
Mae'r ystadegau'n dangos mai Caerdydd sydd wedi cofnodi'r nifer uchaf o farwolaethau - 329 - a Cheredigion sydd â'r nifer isaf, sef chwech.
Rhondda Cynon Taf yw'r ardal gyda'r gyfradd farwolaeth uchaf wedi 237 o farwolaethau, sy'n gyfradd o 98.6 i bob 100,000 o'r boblogaeth.
Mae Merthyr Tudful yn ail agos gyda chyfradd o 98, tra bo'r gyfradd yn 97.2 yng Nghasnewydd a 90.3 yng Nghaerdydd.
Mae'r ONS yn dweud y bydd ffigyrau wythnos nesaf yn adlewyrchu unrhyw dueddiadau yn well, gan na fydd yn cynnwys unrhyw wyliau banc.
20% ar lai o gyflog
Mae'r ONS hefyd wedi cynnal arolwg i effaith y pandemig ar gymdeithas, ac fe ddywedodd un o bob pum person a gafodd eu holi yng Nghymru fod incwm yr aelwyd wedi gostwng oherwydd yr argyfwng coronafeirws.
Mae'r casgliadau hefyd yn awgrymu taw dim ond yn un rhanbarth arall drwy'r DU yr oedd mwy o bobl yn poeni am effeithiau'r pandemig nag yng Nghymru.
Yng Nghymru roedd:
Roedd 23% yn poeni am faterion iechyd, lles neu sicrhau gofal
Roedd 19.5% yn poeni am faterion yn ymwneud â gwaith neu addysg
Roedd 12.2% yn poeni am fethu cynllunio at y dyfodol
Roedd 11% yn poeni am sicrhau nwyddau allweddol a thrafnidiaeth.
Roedd 37.8% o'r atebwyr yng Nghymru hefyd wedi cofnodi trafferthion cael bwyd a nwyddau hylendid, gan olygu fod Cymru'n ail ond i Orllewin Canolbarth Lloegr (43.5%) o ran cael profiadau gwael yn hynny o beth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2020