Ssssut daeth neidr i fod mewn rhandir yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Neidr wasgu CasnewyddFfynhonnell y llun, RSPCA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae arbenigwyr ymlusgiaid bellach yn gofalu am y neidr tra bod ymdrechion i ddod o hyd i'w pherchennog

Mae yna apêl i geisio darganfod perchennog neidr fawr a ddaeth i'r fei mewn rhandiroedd yng Nghasnewydd.

Daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i'r ymwelydd annisgwyl yn y rhandiroedd ger Ffordd Malpas y ddinas ar 14 Mehefin.

Cafodd y neidr wasgu (boa constrictor) gynffongoch chwe throedfedd o hyd ei dal a'i chludo i orsaf heddlu gyfagos cyn cael ei rhoi yng ngofal yr RSPCA.

Mae bellach mewn canolfan arbenigol yng Ngorllewin Chanolbarth Lloegr tra bo'r elusen yn ceisio darganfod pwy yw ei pherchennog.

Dywed RSPCA Cymru fod yr achos yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau diogelwch nadroedd oherwydd eu "gallu rhyfeddol i ddianc".

Ffynhonnell y llun, RSPCA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r neidr bellach mewn canolfan arbenigol tra bo'r elusen yn ceisio dod o hyd i'w pherchennog

Dywedodd y swyddog casglu anifeiliaid, Stephanie Davidson: "Byddai hwn wedi bod yn ddarganfyddiad eithaf anhygoel mewn rhandir.

"Rydym yn ymateb yn rheolaidd i achosion o nadroedd wedi dianc, ac yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau llety diogel a phriodol ar gyfer yr anifeiliaid yma, sydd ag anghenion cymhleth.

"Mae hefyd yn bosib gosod microsglodion yn nadroedd, ac rydym yn annog unrhyw un sy'n berchen ar un o edrych i'r posibilrwydd yna, i sicrhau bod hi'n haws i'w dychwelyd adref petaen nhw'n crwydro."

Mae'r RSPCA'n gofyn i unrhyw un all gynnig gwybodaeth am y neidr neu'r perchennog i ffonio 0300 123 8018.