Ailddechrau'r cynllun gofal plant am ddim
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn ailddechrau'r cynllun gofal plant am ddim i rieni plant 3 a 4 oed sy'n gweithio.
Cafodd y polisi ei ohirio ym mis Ebrill er mwyn rhyddhau cyllid ar gyfer gofal plant i weithwyr allweddol yn sgil y pandemig.
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant i'r rhai sy'n gymwys.
Ond dywedodd un corff o fewn y diwydiant fod angen mwy o gymhorthdal i helpu'r sector i oroesi.
Bydd rhieni a fyddai wedi bod yn gymwys i elwa o'r polisi 30 awr yn nhymor yr haf yn gallu gwneud cais o ganol mis Awst, a gall rhieni plant a fydd yn gymwys yn yr hydref wneud cais o fis Medi.
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru hefyd y bydd canllawiau coronafeirws sy'n cyfyngu plant i grwpiau o wyth mewn lleoliadau gofal plant yn cael eu codi.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan AS: "Bydd dod â'r cynnig yn ôl nid yn unig yn helpu rhieni, ond mae'n hanfodol i ddarparwyr hefyd wrth gefnogi ein busnesau i wella ar ôl cyfnod o ansicrwydd a phryder mawr i lawer."
Fe fydd darparwyr yn derbyn £4.50 yr awr am bob plentyn sy'n cael lle trwy'r cynnig gofal plant.
Ond dywedodd y Gymdeithas Meithrinfeydd Cenedlaethol (NDNA) fod llawer o'i aelodau'n gweithredu ar golled, gan fod llai o blant wedi bod yn mynychu ac mae costau wedi codi i gydymffurfio â rheoliadau diogelwch Covid.
Dywedodd prif weithredwr NDNA, Purmina Tanuku: "Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa drawsnewid i allu cefnogi'r sector nes bod lefelau presenoldeb plant yn codi, ac i wir adolygu'r gyfradd fesul awr i adlewyrchu'r gost ychwanegol maen nhw wedi gorfod ei thalu."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gyfradd fesul awr yn cael ei hadolygu, a'i bod yn ystyried ymestyn y cynnig i rieni mewn addysg neu hyfforddiant neu "ar drothwy" dychwelyd i'r gwaith.
"Rydyn ni hefyd wedi llacio rhai o'r gofynion rheoliadol ar leoliadau gofal plant, er mwyn ei gwneud hi'n haws iddyn nhw weithredu o dan y cyfyngiadau cyfredol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2020