Offer diogelwch personol Cymreig yn 'hanfodol' i daclo ail don

  • Cyhoeddwyd
British Rototherm
Disgrifiad o’r llun,

Doedd British Rototherm erioed wedi cynhyrchu offer diogelwch personol cyn y pandemig

Mae busnesau Cymru bellach yn rhan "hanfodol" o'r gadwyn gyflenwi offer diogelwch personol, a bydd eu hangen os bydd ail don o'r coronafeirws.

Dyna farn un o'r rheolwyr sy'n gyfrifol am sicrhau bod digon o offer ar gael i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dywedodd Mark Roscrow bod tua phum gwaith cymaint o stoc o fygydau, menig a gwisgoedd diogelwch yng Nghymru ag oedd ar ddechrau'r pandemig.

Mae peth o'r stoc bellach yn dod gan gwmnïau oedd erioed wedi cynhyrchu eitemau o'r fath cyn cyfnod Covid-19.

50,000 o fygydau y dydd

Ar adegau yn y gwanwyn, gwerth "dim ond diwrnodau" o offer diogelwch oedd ar ôl yng Nghymru, meddai'r llywodraeth.

Roedd hynny'n dilyn straeon am feddygon yn prynu eu hoffer eu hunain oherwydd prinder cyflenwadau swyddogol, a "straeon arswydus" am ddiffyg offer yn y Gwasanaeth Iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Roscrow bod y GIG yn defnyddio'r cyfnod i sicrhau bod lefelau stoc offer diogelwch yn ddigonol

Ond bellach, mae busnesau yng Nghymru wedi troi at gynhyrchu'r deunyddiau, sy'n cynnig "mwy o deimlad o sicrwydd" ynghylch safonau, meddai Mr Roscrow, sy'n gweithio i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

"Dydyn ni ddim yn gorfod cadw cymaint o stoc ag y bydden ni oherwydd mae cynnyrch y gallwn ni ddibynnu arno ar stepen ein drws."

Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn dangos bod tua 130 miliwn o eitemau ar gael ar hyn o bryd.

Mae un cwmni - a oedd erioed wedi cynhyrchu offer diogelwch cyn y pandemig - bellach yn creu dros 50,000 o fygydau bob dydd.

Offer mesur diwydiannol oedd yn cael eu cynhyrchu gan British Rototherm yng Nghastell-nedd Port Talbot cyn i'r cwmni dderbyn galwad gan fwrdd iechyd oedd angen mygydau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ar ôl deall sut i'w cynhyrchu, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni ei bod yn amlwg faint o angen oedd ar y pryd.

"O fewn cwpl o ddyddiau roedd y ffôn yn canu'n ddi-baid," meddai Oliver Conger.

"Dechreuon ni gynhyrchu tua 1,000 y dydd, yna 10,000 ac erbyn hyn dy'n ni'n cynhyrchu dros 50,000 o fygydau bob dydd."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Pete Phillips o'r Surgical Materials Testing Laboratory, roedd problemau gyda safon peth o'r offer ddaeth i'r DU

Ym Mhen-y-bont mae'r unig labordy yn y DU sy'n gallu profi pob math o offer diogelwch personol ar gyfer ei effeithlondeb.

Pan oedd y pandemig ar ei waethaf, dywedodd cyfarwyddwr y labordy bod 60 llwyth o offer nad oedd yn cyrraedd y safonau angenrheidiol wedi eu darganfod mewn pedwar mis - mwy na gafodd eu canfod yn y 10 mlynedd cyn hynny.

Roedd y GIG yn dibynnu ar offer o dramor, gan gynhyrchwyr oedd heb eu gwirio, meddai Pete Phillips.

"Mae'n amhosib i ni fynd allan i archwilio cynhyrchwyr yn China, mae'n rhaid dibynnu ar asiant yno, ond os yw'r cynhyrchwyr ym Mhontardawe gall rhywun fynd i lawr a gweld eu systemau a safonau, a'r cynnyrch."

Mae Mr Phillips yn dadlau ei bod "yn sicr yn bosib" i'r DU gynhyrchu ei holl offer diogelwch ei hun yn y dyfodol, ond mae hynny dal yn bell i ffwrdd, yn ôl Mr Roscrow.

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n cymryd y cyfnod yma i lenwi stoc i lefel uwch nag y bydden ni ar ddechrau hyn."

Ac wrth i'r byd barhau i geisio darganfod brechlyn, ei obaith ydy y bydd "cyfuniad o'r pethau yma yn ein rhoi mewn sefyllfa well i ymateb i ail don".