Cei Connah yn barod i amddiffyn coron Uwch Gynghrair

  • Cyhoeddwyd
Cei ConnaFfynhonnell y llun, NCM Media

Bydd Cei Connah yn dechrau tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru ddydd Sadwrn fel pencampwyr am y tro cyntaf.

Ond mae un o gemau'r tymor newydd, sef honno rhwng Hwlffordd a Derwyddon Cefn, wedi ei gohirio oherwydd i'r ymwelwyr dorri rheolau yn ymwneud â'r pandemig.

Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru roedd y Derwyddon heb gadw at y protocol ynglŷn â dychwelyd yn ddiogel.

"Rydym wedi atgoffa Derwyddon Cefn o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau o ran Uwch Gynghrair JD Cymru a'r modd o sicrhau fod pêl-droed yng Nghymru yn dychwelyd yn ddiogel," meddai'r llefarydd.

O ran Cei Connah, fe fydd y clwb o Lannau Dyfrdwy yn dechrau eu hamddiffyniad gyda gêm gartre yn erbyn Y Bala.

Tymor llwyddiannus

Fe ddaeth tymor 2019-20 i ben yn ddisymwth ym mis Mawrth oherwydd pandemig coronafeirws.

Daeth cadarnhad bod y Nomadiaid yn bencampwyr deufis yn ddiweddarach, er i'r Seintiau Newydd herio penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn yr Uchel Lys.

Bu'n dymor hynod lwyddiannus i Gei Connah.

Yn ogystal â chipio'r Uwch Gynghrair sicrhaodd y clwb o Sir y Fflint Gwpan Nathaniel MG wedi buddugoliaeth dros STM Sports.

Ac fe drechwyd Kilmarnock o Uwch Gynghrair Yr Alban yn gynharach yn yr ymgyrch yng Nghynghrair Europa.

Ffynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Cei Connah i greu sioc yn Ewrop yn erbyn Kilmarnock y tymor diwethaf

Cafodd eu rheolwr Andy Morrison ei enwi yn rheolwr y tymor, ac mae cyn-gapten Manchester City yn ymfalchïo yn llwyddiant y clwb.

Pan gyrhaeddodd Morrison Stadiwm Glannau Dyfrdwy ym mis Tachwedd 2015 roedd y clwb tua gwaelodion yr Uwch Gynghrair.

Mae'r Albanwr wedi eu trawsnewid yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, gyda llwyddiant yng Nghymru a thu hwnt.

Mae'n cydnabod y bydd timau eraill Uwch Gynghrair Cymru yn awyddus i drechu'r pencampwyr.

"Mi fydda nhw yn dod i gartref y pencampwyr ac eisiau curo'r pencampwyr," meddai Morrison. "Ond mi rydan ni'n barod."

Mae Morrison hefyd yn mynnu mai Y Seintiau Newydd fydd yn dechrau fel ffefrynnau i ennill yr Uwch Gynghrair.

Y Seintiau oedd wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru am yr wyth tymor blaenorol ac roedd siom amlwg wedi iddynt golli allan ar y teitl.

Mae eu rheolwr Scott Ruscoe wedi sôn bod y garfan yn benderfynol o geisio gwneud yn iawn am fethu allan y tymor diwethaf.

Ffynhonnell y llun, NCM Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andy Morrison yn credu mai'r Seintiau Newydd sy'n dechrau fel ffefrynnau er i'w dî, eu curo y tymor diwethaf

Y Bala orffennodd yn drydydd y tymor diwethaf ac fe fydd tîm Colin Caton yn dechrau'r tymor newydd nos Sadwrn wedi buddugoliaeth dros Valletta yng Nghynghrair Europa.

Nid Cei Connah oedd yr unig glwb o Sir y Fflint i gael achos i ddathlu dros yr haf.

Cafodd Y Fflint eu dyrchafu i'r Uwch Gynghrair - a hynny wedi absenoldeb o 22 mlynedd - wedi i Brestatyn fethu â sicrhau'r drwydded angenrheidiol.

Gobaith eu rheolwr ifanc Niall McGuinness yw sicrhau bod y clwb, sydd wedi arwyddo Nathan Craig o Gaernarfon, yn cadw eu lle yn y brif adran.

Clwb arall sydd yn dychwelyd i'r Uwch Gynghrair yw Hwlffordd. Daw'r Adar Gleision i fyny gan nad oedd Prifysgol Abertawe yn gymwys.

Fel Y Fflint, eu nod y tymor hwn medd eu rheolwr Wayne Jones fydd sefydlu eu hunain yn yr Uwch Gynghrair.