Nantgaredig: Dyn heb 'anelu dryll at neb yn ei fywyd'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o saethu cariad ei wraig wedi dweud wrth y llys nad oedd wedi "anelu dryll at neb yn ei fywyd".
Mae Andrew Jones, 53, o Gaerfyrddin yn gwadu llofruddio Michael O'Leary ym mis Ionawr eleni.
Dywed yr erlyniad ei fod wedi denu ei gyfaill i'w eiddo yng nghefn gwlad a'i lofruddio, cyn symud ei gorff i'w iard adeiladu cyn ei losgi.
Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe ar ddechrau'i amddiffyniad brynhawn dydd Iau, dywedodd Mr Jones ei fod wedi adnabod Michael O'Leary am tua 25 mlynedd ac roedd yn ei ystyried fel ei "bumed neu chweched" ffrind gorau.
Pan ofynnwyd iddo'n gyntaf am ei berthynas gyda Mr O'Leary, dechreuodd Mr Jones wylo.
Dywedodd y byddai'n mynd ar deithiau tramor tua dwywaith y flwyddyn gyda Mr O'Leary a chriw o ffrindiau i lefydd fel Ffrainc a Fenis.
Ychwanegodd ei fod yn adnabod gwraig "hyfryd" Mr O'Leary ers iddynt fod yn tua 15 oed a'u bod wedi bod yn gariadon am gyfnod byr.
Dywedodd ei fod yn gyfeillgar iawn gyda thri mab Mr O'Leary hefyd.
Pan gafodd ei holi gan fargyfreithiwr yr amddiffyniad, Kharim Khalid QC, dywedodd na fyddai "fyth" am achosi "niwed" i'r un ohonynt.
Dywedodd wrth y llys fod ei wraig Rhiannon wedi "ymbellhau" yn dilyn gwyliau teulu yn Dorset yn Awst 2019, a bod eu plant wedi tynnu ei sylw at y ffaith yma.
Ar ôl y gwyliau, dywedodd ei wraig wrtho nad oedd hi'n ei garu mwyach.
Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, fe ddaeth Mr Jones o hyd i negeseuon ar ffôn ei wraig rhyngddi hi a Mr O'Leary. Dywedodd wrth y llys fod hyn wedi ei "ddychryn a'i siomi".
"Roeddwn i'n ypset iawn am hyn ac fe fyddai'n onest, doeddwn i ddim yn beio Mike, achos rwy'n ystyried Rhiannon fel un hyfryd iawn.. mae hi'n dlws iawn, ac roeddwn i'n meddwl - allai ddim gweld bai arno."
Pan ofynnodd i'w wraig am y negeseuon, dywedodd wrth y llys ei bod hi wedi dweud wrtho am "ei thaflu hi allan o'r tŷ"
Ychwanegodd ei fod yn pryderu'n syth am yr hyn y dylai ei wneud, gan "nad oedd am achosi loes" i'w deulu ei hun na theulu Mr O'Leary.
Dywedodd wrth y llys ei fod wedi awgrymu wrth ei wraig y dylai'r ddau "ofyn i Mike ddod draw ac eistedd o amgylch y bwrdd a gweithio hyn allan".
Priodasau
Esboniodd ei fod wedi awgrymu y dylai nhw barhau gyda'i gilydd tan fis Mawrth 2020 achos dyna'r amser yr oedd eu mab i fod i briodi. Wedi'r briodas fe fyddai ei wraig a Mr O'Leary yn gallu rhoi terfyn ar eu priodasau ac yna "dod at ei gilydd ychydig fisoedd wedyn" er mwyn peidio achosi loes i blant y ddau deulu.
Ond dywedodd Mr Jones wrth y llys nad oedd ei wraig am wneud hynny a bod ei pherthynas gyda Mr O'Leary wedi dirwyn i ben. Daeth y ddau i gytundeb y byddent yn "gweithio ar y berthynas a symud ymlaen."
Pan ofynnwyd iddo gan ei fargyfreithiwr os oedd Mr O'Leary yn un i'w herio'n gorfforol, dywedodd Mr Jones: "Na, na".
Ychwanegodd fod Mr O'Leary wedi cerdded i mewn i far a "chynnig ffrwgwd gyda phawb" y tro cyntaf i'r ddau gyfarfod.
"Roedd wedi bod yn focsiwr, roedd wedi chwarae rygbi," ac fe ychwanegodd Mr Jones ei fod yn un "enwog" fel dyn y byddai dyfarnwyr yn cael "trafferth" gydag e.
Dywedodd wrth y llys fod Mr O'Leary wed gorfod ei ffonio ddwywaith ers iddynt adnabod ei gilydd er mwyn ymddiheuro am ei ymddygiad, am ei fod yn un oedd "yn mynd i dipyn o stad."
Ond ychwanegodd fod hyn "yn digwydd" a'u bod wedi parhau yn "gyfeillion da."
Pan holodd Mr Khalid am ei ddiddordebau, dywedodd Mr Jones fod ganddo ddiddordeb erioed mewn "drylliau a saethu targedau". Dywedodd ei fod wedi cael tystysgrif drylliau cyn gynted ag yr oedd yn ddigon hen i gael un.
Pan ofynnwyd iddo a oedd erioed wedi anelu dryll at berson, atebodd: "Na. Dwi erioed wedi pwyntio dryll at neb, yn wag neu yn 'loaded', Erioed."
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020