Nantgaredig: Ffugio hunan-laddiad dyn 'mewn panig'

  • Cyhoeddwyd
Andrew Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Jones yn gwadu llofruddio Michael O'Leary

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o saethu cariad ei wraig wedi dweud wrth y llys ei fod wedi ffugio hunan-laddiad y dioddefwr am ei fod "mewn panig" wedi ei farwolaeth.

Fe honnir fod Andrew Jones, 53, wedi lladd Michael O'Leary, 55, gydag un o'i wyth dryll cyn "dinistrio" ei gorff drwy gynnau nifer o danau.

Ond dywedodd Mr Jones wrth y rheithgor yn ei achos ddydd Gwener ei fod am wynebu Mr O'Leary i drafod ei berthynas gyda'i wraig, a dweud wrtho am beidio ag anfon negeseuon testun iddi hi.

Dywedodd Mr Jones fod ei wraig Rhiannon wedi dweud wrtho ychydig ddyddiau cyn y llofruddiaeth honedig ei bod am barhau'n briod gydag o ac y byddai'n gorffen y berthynas gyda Michael O'Leary.

Ychwanegodd ei fod am ddweud wrth Mr O'Leary mai "digon oedd digon" ac fe aeth a dryll i'r cyfarfod rhwng y ddau am ei fod "am ddychryn" Mr O'Leary.

Dywedodd: "Wrth iddo fynd heibio i mi fe saethais ddwy neu dair gwaith i'r llawr. Dywedais wrtho - 'amser am sgwrs nawr'."

Roedd yn gafael yn y dryll pan faglodd Mr O'Leary a disgyn, meddai.

"Fe wnes i gymryd y cyfle i'w gicio yn ei wyneb ac fe ddisgynnodd mas am y cownt."

Dywedodd wrth Lys y Goron Abertawe fod Mr O'Leary wedi dadebru ac yna fe ymddiheurodd iddo, cyn i Mr O'Leary neidio amdano.

"Fe aeth y dryll i ffwrdd. Dywedodd Mike 'agh' ac fe ddisgynnodd yn ôl.

"Fe aeth i lawr ac fe es i ar y llawr gydag o...roedd fy llaw ar waelod y stoc. Roeddwn i'n credu ei fod wedi bachu yn ein dillad."

Ychwanegodd ei fod wedi mynd i "banig" ar ôl gweld Mr O'Leary yn farw ac yna aeth ati i gael gwared o'r corff.

"Roedd yn banig llwyr, doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud. Fe gerddes i o gwmpas am gyfnod. Doedd na ddim symudiad, roedd wedi mynd. Doedd na ddim amheuaeth o hynny."

Esboniodd wrth y rheithgor ei fod wedi ffugio marwolaeth Mr O'Leary fel hunan-laddiad achos "doeddwn i wir ddim yn gwybod beth i'w wneud".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r heddlu wedi dod o hyd i gorff Michael O'Leary

Clywodd y llys fod Jones wedi gadael car Mr O'Leary yn ymyl afon cyn dianc o'r lleoliad ar gefn beic.

Dywedodd William Hughes QC ar ran yr erlyniad: "Cafodd Mike O'Leary ei ddenu i'r lleoliad yma yn disgwyl cyfarfod preifat gyda Rhiannon Jones. Ond yn hytrach fe gyfarfyddodd y diffinydd oedd gyda dryll pwerus yn ei feddiant ac fe'i defnyddiodd i'w saethu'n farw.

"Yna fe gymerwyd camau i guddio ei droseddau - nid mewn panig ond mewn ffordd eglur oedd wedi ei gynllunio."

Ychwanegodd: "Roedd hwn yn lofruddiaeth oedd wedi ei gynllunio a'i ystyried yn ofalus ac roedd yn bell o fod yn ddamwain.

"Roedd llofruddiaeth yn amlwg ar ei feddwl...nid damwain drasig yw hon."

Mae Mr Jones yn gwadu llofruddio Mr O'Leary, gan ddadlau ei fod wedi marw'n ddamweiniol.