'Canslo digwyddiadau'n colli cyfleoedd i hybu'r iaith'
- Cyhoeddwyd

Ciw i weld cystadleuaeth y corau yn ystod Eisteddfod Llanrwst yn 2019
Mae cyfleoedd yn cael eu colli i ddefnyddio a hybu'r iaith wrth i drefnwyr digwyddiadau orfod eu canslo neu eu gohirio oherwydd y pandemig, meddai Comisiynydd y Gymraeg.
Galwodd Aled Roberts am gefnogaeth ariannol i ddigwyddiadau mawr a bach wrth roi tystiolaeth i un o bwyllgorau Senedd Cymru ynghylch effaith Covid-19 ar y Gymraeg.
"Mae yna gryn dipyn o dystiolaeth sy'n amlygu pa mor bwysig ydy'r celfyddydau i siaradwyr Cymraeg," meddai.
"Mae'r ffaith bod yna lai o lawer o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'n iaith yn eu bywydau bob dydd yn destun pryder."

Aled Roberts yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor ddydd Iau
Gan gyfeirio at yr eisteddfodau cenedlaethol a'r Sioe Frenhinol, dywedodd wrth aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu: "Mae'r Gymraeg yn iaith leiafrifol, felly mae gohirio a chanslo digwyddiadau'n mynd â chyfleoedd i'w defnyddio.
"Mae angen i'r llywodraeth roi arian ac rydym yn bendant o'r farn bod yna risg, wrth inni ailgydio ynddi, nad ydy'n llywodraeth yn deall pwysigrwydd y Gymraeg mewn rhai cymunedau.
"Mae yna rwydwaith sy'n cynnal y digwyddiadau yma. Dydy o ddim jest yn fater o'r gwyliau mawr, ond y gwyliau llai, sioeau bach ac eisteddfodau lleol."

Mae llawer o weithwyr annibynnol yn dibynnu ar ddigwyddiadau mawr fel y Sioe Frenhinol, medd Aled Roberts
Cododd Mr Roberts bryder ynghylch effaith economaidd canslo digwyddiadau a'r sgil-effeithiau yn achos pobl sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain ac yn "ddibynnol iawn ar y gwyliau mawr yma".
Dywedodd: "Os oes yna gwestiwn ynghylch y dyfodol, neu ddim ond y flwyddyn nesaf, bydd yna gyfnod ble bydd y bobl yma wedi colli dwy flynedd o waith. Mae'r un peth yn wir am fasnachwyr yn yr eisteddfodau.
"Rwy'n awyddus iawn bod Llywodraeth Cymru ddim yn colli golwg o'r Gymraeg yn yr holl gynlluniau 'ma i aildanio'r economi wedi Covid.
"Mae maint y sector annibynnol o fewn y sector Cymraeg yn fwy nag yn y sector di-Gymraeg - yr hyn rydym yn gofyn amdano yw ystyriaeth i'r Gymraeg yn yr holl gynlluniau economaidd 'ma."
Pwysleisiodd nad yw'n gofyn am driniaeth arbennig, gyda gweithwyr di-Gymraeg hefyd yn wynebu ansicrwydd, ond "gan fod y Gymraeg yn iaith leiafrifol, mae'n creu senario ble mae'n rhaid rhoi rhyw fath o flaenoriaeth iddi".
Sawl testun gofid arall
Mae ffactorau eraill hefyd yn destun pryder, yn ôl Aled Roberts, gan gynnwys ofnau a fydd gwirfoddolwyr i gefnogi digwyddiadau yn y dyfodol.
Dywedodd fod llawer o'r gwirfoddolwyr yn perthyn i gymdeithasau ag aelodau hŷn, ac mae'n poeni "efallai, oherwydd pryderon ymhlith pobl hŷn, fyddan nhw'n llai parod i wirfoddoli yn y dyfodol".

Mae pryder y gallai'r cyfleoedd i weithio o adref gael fwy o effaith nag erioed ar ardaloedd fel Aberdaron
Er yn croesawu ymdrechion i gynnal digwyddiadau ar-lein, dywedodd fod problemau cysylltu â'r we o hyd, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru ble mae canran y siaradwyr Cymraeg yn uwch.
"Mae yna risg y bydd rhai pobl yn cael eu heithrio'n ddigidol, ac mae'n bwysig nad ydan ni'n creu sefyllfa ble rydyn, heb feddwl, yn troi at ddarparu popeth yn ddigidol," meddai.
"Mae'n bwysig i gadw rhywfaint o ddarpariaeth wyneb yn wyneb hefyd, nid dim ond o safbwynt yr iaith ond o bersbectif iechyd meddwl a chymdeithasol."
Mae gweithio o'r cartref yn creu cyfleoedd i breswylwyr aros yn eu cymunedau, meddai Mr Roberts, ond mae'n poeni ynghylch sefyllfa'r Gymraeg petai mwy o bobl yn symud o'r dinasoedd i ardaloedd gwledig ac arfordirol.
"Rydym yn dechrau gweld newidiadau yn nhermau canran y cartrefi sy'n cael eu gwerthu fel tai haf, "meddai. "Mae hynny'n creu problemau i Gymry ifanc sydd eisiau aros yn yr ardaloedd hynny, hyd yn oed os ydy'r cyfleoedd i weithio yno'n gwella.
"Mae angen edrych yn ofalus ar y sefyllfa a bod mwy o ddifri', o bosib, ynghylch rhai strategaethau.
"Dydy hyn ddim yn fater o fewnfudo, mae'n fater sy'n effeithio ar lawer o rannau o'r DU. Ond yn wahanol i rannau eraill o Brydain, mae hyn yn cael effaith glir ar y Gymraeg.
"Rhaid seilio pob trafodaeth ar dystiolaeth gadarn, yn hytrach na thystiolaeth anecdotaidd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2020
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020