Sylfaenydd Canolfan Bedwyr: 'Dinistr fyddai ad-drefnu'
- Cyhoeddwyd
Mae sylfaenydd a chyn-bennaeth Canolfan Bedwyr wedi dweud wrth BBC Cymru bod cynnig Prifysgol Bangor i ailstrwythuro'r ganolfan gyfystyr â "chwalu'r sefydliad yn llwyr".
Yn ôl Dr Cen Williams mae cynnig y brifysgol i "drosglwyddo swyddogaethau o'r ganolfan i'r brifysgol" yn "syndod a sioc" iddo ac mae'n "erfyn ar y brifysgol" i ailystyried.
Mae cyfarwyddwr Gwasg Carreg Gwalch, yr Archdderwydd presennol Myrddin ap Dafydd, wedi ategu'r alwad, gan gwestiynu ymrwymiad y brifysgol i'r ganolfan.
Ond mae'r brifysgol wedi cadarnhau ei hymrwymiad i Ganolfan Bedwyr.
'Syndod, siom a sioc mawr'
Ddechrau Hydref fe gadarnhaodd y brifysgol bod cynnig ar y gweill i ailstrwythuro Canolfan Bedwyr "er mwyn ehangu capasiti ymchwil a datblygu ymhellach".
Mae rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru rŵan wedi gweld adroddiad mewnol sy'n manylu mwy ar y newidiadau allai ddigwydd petai'r brifysgol yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynllun.
Mae'r adroddiad gan gyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, yn cynnig symud Uned Technoleg Iaith a Therminoleg, symud yr Uned Cymraeg i Oedolion ac adleoli gwasanaethau cyfieithu i fod yn "rhan ganolog" o'r brifysgol.
Tra bod yr adroddiad yn cydnabod y gall newidiadau o'r fath fod yn anfantais wrth "golli brand Canolfan Bedwyr", mae hefyd yn dadlau y gall y newid gryfhau sefyllfa'r iaith Gymraeg trwy "Gymreigio ymhellach y Gwasanaethau Canolog" a "gwneud y Gymraeg yn elfen fwy amlwg fyth o'r gwasanaethau".
Er y cynnig, mae Dr Cen Williams yn anghytuno'n chwyrn.
"Syndod, siom a sioc mawr imi glywed am y bwriad yma i drafod y peth hyd yn oed, heb sôn ei weithredu," meddai.
"Mae Canolfan Bedwyr wedi ennill ei thir ac maen nhw'n sôn am symud y tair adran fwyaf gan ddweud y bydd o ddim yn amharu ar Ganolfan Bedwyr.
"Os 'ydyn nhw'n tynnu ryw ugain o staff allan maen nhw'n chwalu'r lle mwy na heb. I mi mae o'n ddinistr."
Ychwanegodd Dr Williams ei fod yn "erfyn" ar y brifysgol i ailystyried eu cynlluniau.
Doedd Prifysgol Bangor ddim am ychwanegu at eu datganiad a wnaed yn gynharach yn y mis, gan ddweud bod y cynnig er mwyn "gwreiddio'r Gymraeg yn elfen allweddol ym mhob un o swyddogaethau'r Brifysgol".
Mae Canolfan Bedwyr wedi cynhyrchu nifer o declynnau ieithyddol fel Cysill a Cysgair, sydd ag effaith fawr tu hwnt i fywyd y brifysgol yn ôl Myrddin ap Dafydd.
"Mae cyfraniad Canolfan Bedwyr fel sefydliad yn aruthrol," meddai.
"Briwsioni ydi hynny," meddai wrth gyfeirio at y newidiadau posib.
"Os ydach chi'n datod sefydliad sydd wedi cynhyrchu gymaint o raglenni gwerthfawr inni ym myd cyhoeddi mae hynny yn mynd i wanhau'r hyn all unigolion gyflawni ar eu pen eu hunain.
"Efallai dylai hyn fod yn rhywbeth hyd braich dan nawdd Senedd Cymru."
'Aildrefnu am resymau ariannol?'
Dywedodd Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith eu bod hwythau yn "poeni fod yr aildrefnu oherwydd amgylchiadau ariannol, nid oherwydd budd i'r Gymraeg".
Mae'r Gymdeithas wedi ysgrifennu at yr Is-ganghellor Iwan Davies yn galw ar y brifysgol i ailystyried.
Mewn datganiad dywedodd Prifysgol Bangor fod "y Gymraeg yn rhan allweddol o weledigaeth strategol Prifysgol Bangor" ac nad oedd cynlluniau i gau Canolfan Bedwyr.
Ychwanegodd fod "cynnig i drosglwyddo rhai o swyddogaethau Canolfan Bedwyr i'r Gwasanaethau Corfforaethol.
"Mae argymhelliad hefyd i symud rhai o weithgareddau'r ganolfan i'r maes academaidd er mwyn ehangu capasiti ymchwil a datblygu ymhellach," meddai'r brifysgol.
"Bydd Canolfan Bedwyr yn parhau i chwarae rhan strategol allweddol wrth ddatblygu'r iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor."
Ychwanegodd yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros y Gymraeg bod y brifysgol yn "ehangu cylch gwaith Canolfan Bedwyr i gryfhau ymhellach ein cefnogaeth i'r Gymraeg ym mhob rhan o'r Brifysgol".
"Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd13 Medi 2016