Ffrwgwd Caerdydd: Heddlu'n arestio dau arall
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson arall wedi'u harestio mewn cysylltiad â digwyddiad pan gafodd bachgen yn ei arddegau ei drywanu yn Nhreganna, Caerdydd, fore dydd Mercher.
Cafodd bachgen 16 oed o Dreganna ei arestio neithiwr ar amheuaeth o ymosod ac fe gafodd dyn 43 oed o Benarth ei arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae ditectifs yn parhau i gredu nad ymosodiadau ar hap yw'r hyn ddigwyddodd yn ystod digwyddiadau treisgar yng nghanol y ddinas ddydd Sadwrn, a'u bod yn cynnwys grwpiau o fechgyn lleol yn eu harddegau yn targedu ei gilydd.
Mae bachgen 17 oed o ardal Grangetown gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi anhrefn treisgar ac ymosod yn parhau yn y ddalfa.
Mae bachgen 15 oed o Lan yr Afon gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi anhrefn treisgar a bod ag arf yn ei feddiant wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.
Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau ac mae nifer o eitemau wedi'u darganfod ac fe fyddant yn cael eu harchwilio'n fforensig.
Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Esyr Jones: "Bydd presenoldeb heddlu gweladwy iawn ledled y ddinas y penwythnos hwn a bydd dyfeisiau sgrinio yn bresennol y tu allan i rai o adeiladau canol y ddinas i helpu i gynnal amgylchedd diogel, i dawelu meddwl y cyhoedd ac atal unrhyw un sy'n ystyried cario arf.
"Rwyf am ail-bwysleisio nad ymosodiadau ar hap yw'r trywanu ddigwyddodd ddydd Mercher a'r anhrefn treisgar ddydd Sadwrn yng nghanol y ddinas - maen nhw'n cynnwys grwpiau o fechgyn lleol yn eu harddegau yn targedu ei gilydd ac rydym yn apelio ar y gymuned am wybodaeth.
"Unwaith eto gofynnwn i deuluoedd ac arweinwyr cymunedol i siarad â'u plant am beryglon troseddau cyllyll a chysylltu gyda Heddlu De Cymru os ydyn nhw'n amau bod eu plentyn wedi bod yn rhan o'r digwyddiad hwn, neu unrhyw drosedd cyllell arall.
"Gallai cymryd y camau hyn arbed bywyd."
Cafodd pedwar o bobl eu stopio o ganlyniad i rybudd adran 60 yn ardaloedd Treganna a Grangetown ddydd Mercher a dydd Iau medd yr heddlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2020