Diffyg hunan-hyder yn rhwystro darpar gyfreithwyr?
- Cyhoeddwyd
Mae problem hyder ymysg pobl ifanc o Gymru mewn perygl o'u dal yn ôl yn eu gyrfa, medd un cyfreithiwr amlwg.
Mae Elisabeth Velina Jones yn gyn-brif ymgynghorydd cyfreithiol y Senedd ac yn aelod o fwrdd Cymru'r Gyfraith.
Dywedodd fod bod heb berthynas neu fodel rôl yn y proffesiwn yn gallu bod yn broblem.
Er mwyn herio'r duedd ymysg pobl ifanc Cymru i feddwl nad ydyn nhw'n ddigon da i lwyddo mewn rhai swyddi, mae cynllun mentora newydd yn ceisio gwella amrywiaeth a mynediad i'r sector cyfreithiol.
Dangosodd ymchwil oedd yn edrych ar symudedd cymdeithasol gan y cyrff sy'n cynrychioli cyfreithwyr a bargyfreithwyr fod nifer anghymesur o'r rhai yn y sector wedi mynd i ysgolion preifat neu annibynnol.
Problem hunan-hyder Cymru
Y llynedd fe gafodd cynllun haf sy'n cynnig y cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 12 i gwrdd a chael eu mentora gan bobl broffesiynol y gyfraith o Gymru yn Llundain ei ehangu i gynnwys lleoliadau yng Nghaerdydd, a bydd y bartneriaeth yna'n parhau yr haf yma. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul, 28 Chwefror.
Dywedodd Ms Jones: "Rydan ni'n meddwl mae 'na broblem hunan-hyder yng Nghymru yn arbennig rhwng pobl ifanc ac rydan ni isio'u hannog nhw i gredu ynddyn nhw'u hunain, ac i gredu bod gyrfa yn y gyfraith yn hollol bosib, ac rydym yno i'w cefnogi nhw o'r funud y maent yn dechrau ar eu gyrfa ac yn y dyfodol hefyd."
Eglurodd bod cynllun Ledlet - Lord Edmund Davies Legal Education Trust - wedi helpu i greu rhwydweithiau i bobl ifanc sydd heb aelod o'u teulu yn gweithio ym myd y gyfraith, na chysylltiadau eraill gyda'r proffesiwn.
Graddiodd Katie Rivers, 22 oed o Hirwaun, yn y gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen, ac mae hi bellach yn gweithio gyda chwmni cyfreithwyr yn Llundain.
Mae hi hefyd yn un o ymddiriedolwyr Ledlet, ac eglurodd sut roedd y cynllun wedi'i helpu hi.
Roedd y gyfraith yn faes lle roedd cysylltiadau a rhwydweithiau yn gallu mynd â chi'n bell, meddai.
"Doedd gen i ddim unrhyw gysylltiad â'r gyfraith, dim teulu neu ffrindiau, felly roedd o'n rhywbeth eitha' gwahanol i fi."
Roedd Ledlet wedi bod o gymorth mawr wrth baratoi ei chais i fynd i'r brifysgol, yn ogystal â'i helpu i sicrhau profiad gwaith yn y maes yn nes ymlaen.
"Roedd Ledlet wedi dangos i fi be sydd ar gael o ran gyrfa yn y gyfraith... a hefyd ro'n nhw'n dweud fy mod yn capable o wneud cais i brifysgol fel Rhydychen, fel yr oedd rhai ohonyn nhw wedi gwneud, ac roedden nhw o gefndir tebyg i fi felly roedd hwnna'n eitha' pwysig i fi weld shwt maen nhw wedi'i wneud e a gwneud i mi feddwl 'dwi'n gallu gwneud hyn hefyd.'
"Fe wnaeth Ledlet ysbrydoli fi i drio'n fwy a gweithio'n fwy caled a mynd am rhywbeth roeddwn i eisiau yn lle rhywbeth haws."
Roedd y gyfraith yn cael effaith ar bob agwedd o'n bywydau, meddai, ac roedd hi'n bwysig i gael pobl o wahanol gefndiroedd yn dilyn gyrfa yn y maes.
Mae Harry Dickens, 22, o Begelli, Sir Benfro, yn astudio i fod yn fargyfreithiwr, ym Mhrifysgol Caerdydd, ond fel gofalwr i'w fam anabl, sy'n rhiant sengl, mae'r cyfleon am brofiad gwaith ar stepen ei ddrws yn brin.
"Y llys agosaf [at fy nghartref] yw Llys Ynadon Hwlffordd, felly mae'n anodd gweld unrhyw gyfleon ymarferol yno. Ni fuasech yn cyfarfod unrhyw fargyfreithwyr neu farnwyr," meddai.
"Dyna yr oedd Ledlet yn ei gynnig - y cyfle i gwrdd â phobl o fewn y gyfraith sydd wedi dod o gefndiroedd eang o bob rhan o Gymru, ac i'r rheiny ddweud wrthoch chi bod y gyfraith yn agored i chi, waeth beth yw eich cefndir."
Mae cynllun Ledlet, a chynllun haf Cymru'r Gyfraith, yn talu costau rhai sy'n cymryd rhan, ac mae'r digwyddiadau'n cael eu cynnal o bell yn ystod y pandemig, ac felly'n lleihau unrhyw rwystrau ariannol, er bod problemau band eang yn gallu effeithio ar rai ardaloedd.
Ond tra bod cynlluniau fel Ledlet yn helpu i gael mwy o bobl ifanc o wahanol gefndiroedd i mewn i faes y gyfraith, roedd sicrhau cyngor cyfreithiol a mynediad i'r system gyfiawnder yn dal yn fwy o her i nifer o gymunedau Cymru, yn ôl, Elisabeth Velina Jones.
"Mae'n bwysig bod y bobl sydd angen cyngor cyfreithiol yn teimlo bod eu cyfreithwyr yn deall nhw," meddai.
"Ond yn fy marn i y broblem fwyaf efo pobl sydd angen cyngor cyfreithiol yw arian. Mae'r system cymorth cyfreithiol wedi cael ei dorri cymaint, a dyna'r rhwystr fwyaf i bobl gael cyngor cyfreithiol addas."
Yr unig ddewis i lawer, meddai, oedd cymryd "yr unig gyfreithiwr yn yr ardal sy'n gallu rhoi cyngor cyfreithiol gyda chymorth cyfreithiol - neu roi'r gorau i'r achos am ei fod yn rhy gostus, neu gynrychioli eich hunain," meddai.
Yr wythnos hon mae'r Arglwydd Ganghellor, Robert Buckland QC AS, wedi bod yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn y Senedd', ac roedd yn cydnabod fod cyngor cyfreithiol yn gallu bod yn brin mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.
"Mae daearyddiaeth y wlad yn elfen wrth gwrs, a'r amser mae'n gallu gymryd i gyrraedd rhai canolfannau cyfiawnder," meddai.
"Dyna pam y mae'n bwysig i ni i gyd edrych eto ac ailddychmygu beth ddylai'r ddarpariaeth gymorth gyfreithiol fod.
"Dyna pam yr wyf yn gobeithio bod y newidiadau a wnaed gennym o ganlyniad i Covid, mewn perthynas â thechnoleg gweithio o bell, yma i aros."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd17 Medi 2015
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2018