Lle i enaid gael llonydd: Aled Wyn Davies
- Cyhoeddwyd
Mae Aled Wyn Davies yn ffermwr defaid ac yn byw gyda'i wraig Karina a'i blant Aria ac Aron ym mhentref Llanbryn-mair ym Mwynder Maldwyn.
Mae Aled hefyd yn ganwr clasurol adnabyddus sydd wedi ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol; yn aelod o Dri Tenor Cymru ac wedi teithio'r byd yn diddanu.
Yma, mae'n disgrifio ei le tawel i gael llonydd yn Llanbryn-mair yn y canolbarth:
Mae'r deuddeg mis diwethaf yma wedi dangos yn glir i lawer ohonom nad oes angen mynd yn bell o adre i fwynhau golygfeydd godidocaf ein gwlad.
Fel canwr clasurol, dwi wedi bod yn ffodus i drafeilio'r byd dros yr ugain mlynedd diwethaf ac wedi rhyfeddu o weld atyniadau poblogaidd dros chwe chyfandir ac, efallai, wedi cymryd harddwch cefn gwlad canolbarth Cymru yn ganiataol heb feddwl pa mor lwcus yr ydym i ymgartrefu yma.
Fel ffarmwr defaid mynydd yn Llanbryn-mair, rwyf yn gallu cipio i'r llecynnau tawelaf ar y ffarm acw ac yn gallu gweld y byd yn mynd heibio i lawr yn y dyffryn.
Does ond angen mynd rhyw 500 llath o ffald Pentremawr, i fyny'r caeau serth, i gael tawelwch llwyr, ond hefyd dwi'n gallu profi o bellter, brysurdeb pentref Llanbryn-mair ryw filltir i ffwrdd yn ogystal â phriffordd yr A470 sy'n torri drwy'r cwm.
Mae'r pentref a'i dirwedd fel ei fod mewn powlen gyda'r pedwar dyffryn yn ymlwybro tuag ato.
Os am ychydig mwy o dawelwch, does dim yn well nag eistedd yn yr haf ar un o'r cerrig ar fynydd Nantcarfan - ein fferm fynydd i fyny Cwm Pandy.
Yn fy marn i, does na'r un olygfa well yn y canolbarth. Filltiroedd o bobman, ond nid nepell o olwg copaon Cader Idris, y ddwy Aran, ac Eryri i'r gogledd; mynyddoedd Pumlumon i'r gorllewin; ac ucheldir Maesyfed i'r de.
Gallaf ddychmygu eistedd yno yn canu ar fy ngorsedd fel rhyw frenin o'r Oesoedd Canol gyda'r holl dir o'm cwmpas!
Nid nepell o foelydd Nantcarfan mae dau o lynnoedd cyfrinachol y canolbarth. Os am weld neb drwy'r dydd, mae'r daith fer at lynnoedd Coch-Hwyad a Gwyddior yn ddiwrnod i'w drysori gyda'r teulu. Maent wedi'u cysgodi yng nghanol y fforestydd sydd rhwng pentrefi Llanbryn-mair a Llanerfyl.
Llecynnau hudolus, os gallwch ddod o hyd i'r ffordd yno!
Dwi'n teimlo'n ffodus iawn fy mod yn gallu mynd i'r llecynnau yma bron i gyd heb adael tir y fferm. Wrth yrru am adref wedi taith hir dramor, mae geiriau'r bardd lleol, Mynyddog, wedi dod i'r cof sawl tro:
"Wedi teithio mynyddoedd, llechweddi a chymoedd - Does unman yn debyg i gartref."
Hefyd o ddiddordeb: