DVLA: Cannoedd o blaid streicio am bryderon Covid
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o weithwyr yng nghanolfan drwyddedu cerbydau'r DVLA yn Abertawe wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol oherwydd pryderon am ddiogelwch ac iechyd Covid-19.
Fe wnaeth aelodau undeb y PCS yn y swyddfa gefnogi streicio gyda 71.6% o blaid, ac roedd 76.9% o blaid dulliau eraill o weithredu diwydiannol.
Pleidleisiodd ychydig dros hanner (50.3%) o'r aelodau.
Dywedodd yr undeb bod y swyddfa wedi dioddef un o'r clystyrau gwaethaf o coronafeirws yn y DU, ond bod mwy na 2,000 o staff wedi bod yn mynd i mewn i'r gweithle bob dydd.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y PCS, Mark Serwotka: "Mae'r canlyniad yma'n gondemniad o reolwyr y DVLA a'u methiant llwyr i gadw staff yn ddiogel.
"Mae'n haelodau wedi gyrru neges glir nad ydyn nhw'n ddiogel yn eu man gwaith.
"Cafodd ein haelodau eu gorfodi i'r safbwynt yma, ac fe fydd gweithredu diwydiannol yn digwydd oni bai bod rheolwyr yn gwneud y newidiadau angenrheidiol ar unwaith i sicrhau fod staff yn ddiogel yn y gwaith."
Bydd yr undeb yn cyfarfod gyda rheolwyr cyn penderfynu ar y cam nesaf.
'Effaith niweidiol'
Dywed y PCS eu bod am weld nifer y gweithwyr ar y safle'n cael ei gwtogi i gannoedd, a phobl fregus yn cael eu hanfon adref naill ai i weithio o adref neu gael cyfnod o'r gwaith gyda chyflog.
Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA: "Rydym wedi dilyn a gweithredu canllawiau Llywodraeth Cymru ar bob cam drwy'r pandemig, ac wedi gweithio'n gyson gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Amgylcheddol a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe i gyflwyno cyfres o fesurau diogelwch.
"Byddai unrhyw weithredu diwydiannol yn debygol o gael effaith niweidiol ar yrwyr wrth i ni ddechrau ar y daith allan o'r cyfnod clo, a phan mae rhaglen frechu'r DU yn ei hanterth.
"Rydym yn gobeithio y bydd y PCS yn ystyried yr effaith hyn wrth benderfynu sut y bydd yn symud ymlaen.
"Mae nifer yr achosion o Covid-19 ymhlith staff y DVLA yn parhau yn isel, ac ar hyn o bryd mae pum achos positif - gan gynnwys y rhai sy'n gweithio o adref - mewn gweithlu o dros 6,000."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2020