Llacio rheolau i fyfyrwyr prifysgol ar ôl y Pasg
- Cyhoeddwyd
Fe fydd myfyrwyr prifysgol yn cael mynediad i lyfrgelloedd, stiwdios a labordai yn dilyn gwyliau'r Pasg er mwyn cael cymysgedd o ddysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau.
Fe gadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams y byddai myfyrwyr yn cael dychwelyd i addysgu "cymysg" ar gampws ac yn gweithio o adref o 12 Ebrill.
Ychwanegodd Ms Williams fod y neges o "aros yn lleol" yn parhau ond fod y rheolau yn caniatáu i bobl deithio ar gyfer anghenion addysgol.
Bydd profion Covid cyflym ar gael ddwywaith yr wythnos i'r myfyrwyr a'r staff rheiny sy'n mynychu unrhyw gampws.
Dywedodd Ms Williams wrth fyfyrwyr: "Dwi'n gwybod fod eich profiad o fod yn y brifysgol eleni wedi bod yn wahanol i'ch disgwyliadau ac eich bod wedi colli allan ar sawl elfen gymdeithasol o fywyd prifysgol.
"Ond drwy wneud hynny, rydych wedi helpu i gadw'r feirws dan reolaeth, lleihau'r risg o'i ddal a'i ledaenu ac yn sicr mae hyn wedi achub bywydau," meddai.
Mesurau ysgol 'dan sylw'
Mae rhagor o ddisgyblion ysgol Cymru wedi dychwelyd i'r ystafell ddosbarth ddydd Llun am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr.
Roedd nifer fechan o achosion Covid mewn ysgolion dros y mis diwethaf, ond nid oeddynt yn ddigon i newid y penderfyniad, meddai Ms Williams.
Nid oedd y nifer fechan o achosion yn sioc, meddai, ac mae swyddogion iechyd yn cynghori ysgolion ynglŷn â sut i ddelio ag unrhyw achosion.
Cafodd disgyblion 3-7 oed ddychwelyd fis diwethaf, gyda'r rhai hŷn yn mynd yn ôl yr wythnos hon.
"Yn ein profiad ni dros y tair wythnos ddiwethaf, wrth i ddisgyblion cyfnod sylfaen fynd i mewn, nid oes unrhyw beth wedi gwneud i ni feddwl na allwn barhau gyda'r camau pwysig yr ydym yn eu cymryd heddiw," meddai.
Ychwanegodd y byddent yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa.
Yn gynharach yn ei chynhadledd i'r wasg, dywedodd y Gweinidog Addysg y byddai mesurau diogelwch mewn ysgolion, i atal lledaeniad y feirws, yn cael eu cadw dan sylw.
Roedd hi'n ymwybodol bod gwisgo mygydau ac offer diogelwch eraill yn "cwtogi ar y profiad addysgol arferol", meddai.
Ond ychwanegodd y byddai modd gwneud i ffwrdd â rhai ohonynt cyn gynted ag y byddai'r cyngor meddygol yn cefnogi hynny.
A neges debyg oedd ganddi ynglŷn â champfeydd, sef y byddent yn ailagor "cyn gynted ag y gallwn".
"Maent yn lefydd pwysig i nifer o bobl," meddai.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn, pan newidion ni'r rheolau i ganiatáu i bobl ymarfer gyda'i gilydd."
Mewn ymateb, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price eu bod yn cefnogi caniatáu i fyfyrwyr ddychwelyd, gan bod y cyngor meddygol yn cefnogi hynny.
Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, dylai pob disgybl ysgol uwchradd ddychwelyd cyn 12 Ebrill.
Mae plant blynyddoedd 7-9 yn gallu cael sesiynau 'galw i mewn' gyda'u hathrawon cyn hynny, ond yn ôl Mr Davies: "Mae'n bwysig fod disgyblion yn dechrau ar eu haddysg yn hytrach na chael sesiynau 'galw i mewn'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020