Staff y DVLA yn Abertawe yn mynd ar streic
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr y DVLA yn Abertawe wedi dechrau streic bedwar diwrnod mewn ffrae dros iechyd a diogelwch.
Mae'r streic, fydd yn para tan ddydd Gwener, yn deillio o bryderon a godwyd gan staff yn sgil clwstwr o achosion Covid-19 ar y safle.
Cofnodwyd 560 achos yno rhwng Medi y llynedd a Chwefror eleni.
Mae'r ganolfan yn cyflogi dros 6,000 o weithwyr, ac mae undeb y PCS yn dweud bod dros 2,000 wedi bod yn mynd i mewn i'r gwaith bob dydd.
Effeithio ar wasanaethau
Mae gan yr undeb 3,300 o aelodau yn y DVLA, ac maen nhw am weld mwy yn gweithio o adref, er mwyn diogelwch y rhai sy'n gorfod mynd i mewn i'r gweithle.
Dywedodd Llywodraeth y DU mewn neges ar eu gwefan y bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio'n uniongyrchol ar wasanaethau, gydag oedi mewn ymateb i geisiadau papur, a thrafferth cysylltu dros y ffôn.
Oherwydd rheolau'r pandemig, ni fydd llinell biced gorfforol, a bydd yr undeb yn hytrach yn cynnal digwyddiadau rhithiol yn ystod yr wythnos.
Dywedodd undeb y PCS ei bod wedi cynnal trafodaethau dwys gyda'r DVLA i geisio cyrraedd cytundeb.
"Er ein bod yn croesawu'r gwelliannau hyd yma, mae diffyg camau gan y cyflogwr i leihau niferoedd ar y safle yn golygu fod rhaid i ni nawr symud ymlaen i weithredu diwydiannol ar ffurf streic ymhlith y staff gweithredol ar y safle o 6 Ebrill," meddai'r undeb.
"Rydym yn grediniol fod y DVLA yn medru rhoi mwy nag y mae'n fodlon gwneud ar hyn o bryd, ac rydym yn credu'n gryf y bydd dangos ein nerth yn troi'r fantol wrth geisio cael rheolwyr i leihau niferoedd yn y tymor canolig a gwneud y safle'n ddiogel."
Fe ymatebodd y DVLA mewn datganiad, gan ddweud: "Ar hyn o bryd does yr un aelod o staff yn hunan-ynysu allan o weithlu o dros 6,000.
"Mae'r DVLA wedi sicrhau ei fod wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hyd y pandemig ac wedi cydweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe i gyflwyno ystod eang o fesurau diogelwch.
"Mae'n siomedig fod y PCS yn mynd ymlaen gyda'r gweithredu diwydiannol yma a fydd yn effeithio ar fodurwyr wrth i'r cyfyngiadau ddechrau llacio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021