Y Llwybr Hud gan Elan - enillydd sgrifennu stori Radio Cymru 9-11 oed
- Cyhoeddwyd
Pen moel sy'n disgleirio fel lolipop sdici sydd gan Taid, a llygaid glas tywyll dyfn. Mi fysach chi yn disgwyl i rywun 83 oed gael dannedd melyn fel cwstard, ond na, dim Taid. Mae dannedd Taid mor wyn ag eising! Y rheswm am hyn, medda fo, ydy am ei fod yn golchi ei ddannedd dair gwaith y diwrnod, a byth, ia BYTH yn bwyta da-da. Iawn dyna ddigon am Taid, ymlaen gyda'r stori!!!
Roeddwn i yn cael noson o wyliau yn nhŷ Taid, ac roedden ni wedi cael noson grêt yn siarad fel pwll y môr. Ar ôl llond bol o swper iachus, mi ddaeth hi yn amser ffarwelio am y gwely. Gofynnais iddo am siocled poeth ond roeddwn i'n gwbod cyn gofyn mai 'na' fyddai ateb doeth Taid, felly i'r gwely a fi efo dŵr. Ia! Dŵr!
Deffrodd rhywbeth fi yng nghanol y nos, a phan agorais gil fy llygaid, roedd bron i mi neidio allan o fy nghroen! Roedd cylch mawr piws wedi ymddangos ar y wal. Er fy mod wedi dychryn, camais drwy'r twll hirgrwn yn hyderus, a theimlo fy nhraed yn suddo wrth i mi gerdded ar hyd llwybr meddal wedi ei wneud allan o fŵs siocled! Roedd y llwybr yn arnofio yn y tywyllwch a'r unig beth i'w weld oedd miloedd o sêr disglair o bob lliw a llun wedi ei wneud o hufen iȃ.
Ymhen hir a hwyr cyrhaeddais ddrws mawr siocled. Felly beth wnes i? Ia, camu drwy'r drws ac i mewn i wlad wedi ei wneud o fferins!
Brasgamodd dyn bach od yr olwg ata i. Roeddwn yn siŵr ei fod wedi ei wneud allan o GACEN ac wthi yn pendroni os oeddwn i am gymryd brathiad ohono, pan gynigiodd os oeddwn i eisiau mynd i gaffi da-da am sgram! Roedd dŵr yn glafoerio yn fy ngheg wrth feddwl am y wledd oedd yn aros amdana i.
Dychmygwch y siom a gefais wedyn pam welais foronen, letys a thomato yn cael ei roi ar y bwrdd o fy mlaen! Rhoddais y gegiad gyntaf yn fy ngheg. WAW, roedd y moron yr un blas ȃ haribo, y letys fel candi fflos, a'r tomato fel toblorone.
Llowciais y cyfan yn ddiolchgar nes roeddwn yn llawn i'r top. Llusgais fy nhraed yn ôl ar hyd y llwybr nes cyrraedd y drws piws yn wal yr ystafell wely unwaith eto.
Pan ganodd y cloc larwm bore wedyn, es i lawr y grisiau at Taid.
'Mae gen i wledd yn aros amdanat ti bore 'ma,' meddai Taid yn garedig. Sut fysat ti yn hoffi newid bach heddiw? Yn lle uwd a thost bara brown, be am bowlenaid o coco pops a chrempogau siocled a siwgwr?
Dwi dal ddim yn siŵr os oedd Taid yn gwybod am fy antur ar hyd y Llwybr Hud yn ystod y nos, ond gwenais arno a dweud, 'Dim diolch Taid. Mi fydd yr uwd plaen yn fendigedig!'
Elan o Ysgol Brynaerau, enillydd categori cyfnod allweddol 2a, 9-11 oed