Y Llwybr Hud gan Nel - enillydd sgrifennu stori Radio Cymru 7-9 oed

  • Cyhoeddwyd
Clawr y Llwybr Hud gan Efa LoisFfynhonnell y llun, Efa Lois

Roedd y sêr yn dawnsio uwch fy mhen ac yn edrych fel petai rhywun wedi arllwys potyn mawr o glitter dros bob man.

Roeddwn ar dȃn eisiau gweld y llong ofod - 'Y Llwybr Hud' yn gwibio heibio. Dyna'r unig beth yr oeddwn wedi meddwl amdano trwy'r dydd. Roedd Mam-gu a Tad-cu yn gyffrous iawn hefyd i'w weld ac wedi danfon sawl neges yn cyfri at yr amser yn ystod y dydd, roedd Mam-gu newydd ddarganfod yr emojis!! Mae Mam-gu a Tad-cu werth y byd ac yn ddoniol iawn, maent fel plant ond mewn corff oedolion.

Roedden ni mewn cystadleuaeth gyda Mam-gu a Tad-cu i weld pwy fyddai'n gweld y llong ofod yn gyntaf.

'Bydd y llong ofod yn mynd trwy Pencader gyntaf,' dywedodd Tad-cu yn bendant.

'Mae popeth pwysig yn mynd i Bencader cyn Trimsaran BOB tro.' Yr un peth mae Tad-cu yn dweud bob tro ac mae o hyd yn tynnu fy nghoes.

Rwy'n gweld eisiau cwtsh gyda Mam-gu a Tad-cu, dydw i heb eu gweld ers ache, ond fel mae Mam-gu yn cadw dweud bob dydd … 'Dim ond bo ni'n saff'. Ond ni wedi danto clywed hwn.

O na!!! Rhoddodd Tad-cu floedd dros y ffôn, 'Ni newydd weld hi, y llong ofod, wawwii!!

Roedd fy chwaer fach yn pwdu, 'Smo hwnna'n deg,' dwedodd a'i dwylo wedi plygu a'i llygaid fel papur wedi cael eu dyrnu at ei gilydd.

'Un lliwgar iawn yw hi, fel yr enfys,' gwaeddodd Tad-cu dros y ffôn achos roedd sŵn rhyw injan mawr yn y cefndir.

Ond y peth nesaf, dyma don o olau mawr llachar fel blanced dros yr ardd, cefais ofn ac roeddwn yn crynu fel jeli. Rhedodd Dad i mewn i'r tŷ a'i wynt yn ei ddwrn i nôl Mam a oedd yn gwneud siocled poeth i ni gynhesu.

Roedd y pedwar ohonom yn sefyll mewn rhes o bysgod tu fas a llygaid fel soseri.

'B-b beth yn y b-b- BYD yw hwnna,' dwedodd Mam yn araf gan ollwng siocled poeth ym mhobman!!

'MAM-GU A TAD-CU!!! Beth ar y ddaear ydych chi'n neud 'ma?' gofynnais mewn llais gwichlyd.

Roeddwn ni methu credu beth o ni'n ei weld yn sefyll o flaen llong ofod lliw enfys yn ein gardd gefn ni!!!

Doeddwn ni heb eu gweld ers mis Mawrth! Rhedodd fi a fy chwaer fel pethau gwyllt atynt ond … y peth nesaf, wrth i ni agosau atynt fe fownsiodd y ddwy ohonon ni i'r aer fel rydym yn ei wneud ar y trampoline a glanio ar ein penolau ar y gwair.

O ni'n methu mynd yn agosach, roedd swigen fawr o'u cwmpas yn eu cadw i gadw pellter er mwyn bod yn saff!

Roedd tad-cu wedi bod yn brysur yn ei sied newydd yn adeiladu llong ofod yn ystod y cyfnod clo - Y Llwybr Hud er mwyn hedfan i'n gweld ni.

Teithiodd Mam-gu a Tad-cu ar hyd y llwybr hud i'n gweld ni achos ein bod i gyd yn gweld eisiau ein gilydd ac wedi danto gyda Zoom!

Disgrifiad,

Cystadleuaeth sgwennu stori Aled: stori fuddugol categori cyfnod allweddol 2a, 7-9 oed

Gan Nel o Ysgol Gymraeg Dewi Sant Llanelli, enillydd categori cyfnod allweddol 2b, 7-9 oed

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw