Y Llwybr Hud gan Huw - enillydd sgrifennu stori Radio Cymru 5-7 oed
- Cyhoeddwyd
Unwaith roedd blaidd caredig ac unig o'r enw Griff. Roedd gan Griff wallt hir blewog a dannedd mawr miniog fel cyllell. Roedd ganddo lygaid disglair mawr. Roedd gan Griff wallt du fel y nos. Y broblem oedd ei fod e'n drist iawn oherwydd nad oedd ganddo unrhyw ffrindiau. Rhedodd pawb oedd yn mynd heibio achos eu bod nhw'n meddwl mai blaidd cas oedd Griff. Un bore roedd Griff yn codi sbwriel oherwydd ei fod yn hoffi bod yn garedig. Daeth e o hyd i ddarn o bapur wedi sgrwnsho i fyny. Roedd Griff yn gyffrous oherwydd ei fod yn fap trysor! Y cwestiwn mawr oedd, a oedd Griff yn gallu dod o hyd i'r trysor? Chwiliodd Griff am lwybr ar y map trysor. Yn sydyn daeth o hyd i lwybr hudolus. Aeth y llwybr i mewn i goedwig dywyll. Yn sydyn roedd y dail yn dechrau newid eu lliw a roedd y lliwiau yn liwiau'r enfys.
Roedd cegau yn y coed mawr a dechreuon nhw ganu caneuon hyfryd fel aderyn. Wrth i Griff gyrraedd diwedd y llwybr lliwiau, a'r coed yn canu, gwelodd gastell hudolus mawr. Ym mlaen y castell roedd bont yn codi yn araf ac yn crebachu. Roedd Griff yn gyffrous ac allan daeth blaidd cyfeillgar o'r enw Celt. Aeth Griff a Celt ar y llwybr hudolus a dod o hyd i flwch trysor yn disgleirio fel seren. Roedd yn llawn aur. Roedden nhw yn hapus iawn i gael ffrind newydd ac ni fu erioed yn unig eto.
Gan Huw o Ysgol Mynydd Bychan, enillydd y categori cyfnod sylfaen 5-7 oed