Gwaith £35m i gryfhau amddiffynfeydd yn Hen Golwyn

  • Cyhoeddwyd
Hen GolwynFfynhonnell y llun, Cyngor Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwelliannau yn Hen Golwyn yn rhan o gynllun gwerth tua £35m

Mae disgwyl i'r gwaith o gryfhau amddiffynfeydd arfordirol yn Sir Conwy ddechrau dydd Llun.

Nod y gwelliannau yw atgyfnerthu rhannau gwannaf y morglawdd yn Hen Golwyn.

Bydd rhan o bromenâd y dref rhwng Rotary Way a Splash Point ar gau am gyfnod o tua 18 mis wrth i'r gwaith ddigwydd.

Mae'r prosiect yn rhan o gynllun ehangach gwerth tua £35m i drawsnewid yr amddiffynfeydd Fictoriaidd.

Bydd y gwaith dros y misoedd nesaf yn arwain at godi'r amddiffynfeydd hyd at uchder y promenâd a byddant yn cysylltu â gwelliannau blaenorol i ben dwyreiniol y mur, gafodd eu cwblhau yn 2020.

Fe fydd platfform pysgota newydd hefyd yn cael ei adeiladu, ynghyd â mynediad at y traeth.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae stormydd cryf wedi herio'r amddiffynfeydd yn Hen Golwyn dros y blynyddoedd diwethaf

Tra bod Cyngor Conwy wedi sicrhau dros £9m o ddwy gronfa Llywodraeth Cymru i ariannu'r gwelliannau hyn, mae'r awdurdod lleol "yn parhau i chwilio am gyllid" ar gyfer gweddill y prosiect £35m.

Rhybuddiodd dogfen a aeth gerbron cynghorwyr y llynedd bod risg o "fethiant trychinebus" os nad yw'r cynllun ehangach yn cael ei wireddu.

Wrth groesawu'r gwaith sydd ar fin cychwyn, nododd y Cynghorydd Brian Cossey - sy'n cynrychioli'r ardal - y byddai'r rheilffordd gyfagos a phriffordd yr A55 dan fygythiad pe bai'r morglawdd yn methu.

"Rwyf wrth fy modd fod y cam hwn o'r gwaith yn dechrau, ond mae llawer mwy i'w wneud eto," meddai.

Pynciau cysylltiedig