'Croeso gofalus' i iawndal £100,000 i is-bostfeistri

  • Cyhoeddwyd
Noel Thomas a'i ferch SianFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Noel Thomas a'i ferch Sian y tu allan i'r llys yn Llundain ar ôl dyfarniad ym mis Ebrill

Mae cyn-is-bostfeistr, a gollodd ei fusnes ar ôl iddo ei gael yn euog ar gam yn sgandal Swyddfa'r Post, wedi rhoi "croeso gofalus" i gyhoeddiad y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi iawndal o hyd at £100,000.

Cafodd Noel Thomas o Gaerwen ei garcharu am naw mis yn 2006 am gadw cyfrifon ffug, a hynny ar ol i Swyddfa'r Post honni ei fod yn gyfrifol am ddiflaniad £48,000 o'r busnes.

Ond cafodd ei euogfarn ei ddileu eleni ynghyd â dwsinau o bostfeistri eraill a gafodd hefyd eu cyhuddo o ddwyn, twyll a chadw cyfrifon ffug.

Ddydd Iau, cyhoeddodd Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y byddai'n rhoi iawndal o hyd at £100,000 i'r rhai gafodd eu heffeithio.

Hyd at yr wythnos hon, mae 57 wedi llwyddo i ddiddymu eu heuogfarnau.

Ychwanegodd BEIS nad yw'r penderfyniad yn atal y dioddefwyr rhag gwneud ceisiadau pellach am iawndal drwy'r llysoedd.

Dywedodd Mr Thomas wrth BBC Cymru: "Mae'n annisgwyl ond rwy'n rhoi croeso gofalus iawn, iawn iddo.

"Dros y blynyddoedd mae'ch gobeithion yn adeiladu ond iddyn nhw gael eu dymchwel yn y pen draw."

Mae Mr Thomas, sydd bellach yn 74, wedi dechrau achos sifil ac mae'n credu bod ganddo'r hawl i £250,000 mewn enillion coll.

Disgrifiad o’r llun,

Yr wythnos hon fe wnaeth Tim Brentnall o Sir Benfro ennill ei apêl yn y llys ar ôl cael ei erlyn ar gam oherwydd system gyfrifiadurol Horizon

Dros 14 mlynedd, rhwng 2000 a 2014, cafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn a chafodd nifer eu carcharu.

Dywedodd y gweinidog llywodraeth Paul Scully "nad oes modd gor-ddweud" y dioddefaint mae'r cyn-weithwyr wedi ei brofi.

"Er nad oedd modd gwneud yn iawn am y blynyddoedd o boen yn dilyn yr anghyfiawnder ofnadwy yma, dwi'n gobeithio y bydd y cam cyntaf yma yn rhoi rhywfaint o gysur."