'Methiannau sylweddol' cyn marwolaeth claf canser o'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Ann Jones with grandchildrenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ann Jones wedi 'cam-ddiagnosis brawychus a systemig'

Fe arweiniodd "methiannau sylweddol" gan staff ysbyty at ddioddefaint dianghenraid claf canser cyn ei marwolaeth, medd adroddiad newydd.

Bu farw Ann Jones, 69, o'r Rhyl yn Awst 2019 gyda chanser y coluddyn.

Dywed adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru na chafodd cymhlethdodau wedi llawdriniaeth eu hadnabod yn iawn, a nodwyd mai rhesymau seicolegol yn hytrach na salwch oedd i gyfrif bod Mrs Jones yn colli pwysau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro i'w theulu.

'Effeithio ar hawliau dynol'

Mae'r adroddiad, sy'n cyfeirio at Mrs Jones fel Mrs M, yn dweud ei bod yn amhosib gwybod a ellid fod wedi arbed bywyd Mrs Jones petai wedi cael y diagnosis cywir.

Ond mae'n dweud: "Mae'r methiannau hyn wedi effeithio ar hawliau dynol Mrs M nid yn unig o ran urddas ond ei hansawdd bywyd hefyd.

"Roedd hefyd effaith ar hawliau'r teulu ehangach o ran gwylio ei gwaethygiad gwanychol."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn nodi bod teulu Mrs Jones wedi dioddef hefyd

Fe gafodd Mrs Jones lawdriniaeth ar ei choluddyn yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ym mis Chwefror 2019.

Daeth adref ond ym mis Mai dychwelodd i'r ysbyty ac yna cafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Cyffredinol Llandudno.

Dychwelodd adref eto ym mis Gorffennaf gan ddychwelyd i Ysbyty Glan Clwyd ar 3 Awst.

Ond yna penderfynwyd nad oedd hi'n ddigon cryf i wynebu llawdriniaeth arall a bu farw ar 24 Awst o gyflwr peritonitis - llid sy'n cael ei achosi gan haint.

Dywed teulu Mrs Jones mai dim ond ychydig o gysur y mae'r adroddiad yn ei roi iddynt.

"Yr hyn sy'n fwyaf arwyddocaol ydy na ddylai hi fod wedi dioddef," medd ei merch, Charlotte Finlay.

"Ddylai hi ddim fod wedi gorfod dioddef y boen yna am wyth neu naw mis. Dylai mwy fod wedi cael ei wneud."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed merch Mrs Jones bod ei mam wedi dioddef yn ddiangen

"Fe gafodd hi sgans mor gynnar â mis Mawrth ac roedd y canlyniadau yn dangos bod yna rhywbeth yn y coluddyn oedd yn ei rwystro rhag gweithio'n iawn a'r adeg honno fe fyddai hi wedi bod yn ddigon cryf i gael llawdriniaeth," dywedodd Mrs Finlay.

"Fel teulu fe fyddwn i wastad yn gofyn a fyddai hi yma rŵan petai hi wedi cael llawdriniaeth ym mis Mawrth."

'Cam-ddiagnosis brawychus'

Dywedodd yr Ombwdsmon Nick Bennett: "Mae'r achos trasig hwn yn gam-ddiagnosis brawychus a systemig.

"Bu llawer o fethiannau a gwallau sylweddol cyn, yn ystod ac ar ôl i Mrs M gael ei rhyddhau o'r ysbyty."

Fe gafodd cyngor Sir Ddinbych hefyd ei feirniadu am fethu cynnig gofal cartref digonol i Mrs Jones wedi iddi gael ei rhyddhau o'r ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysbyty Glan Clwyd yn un o ddau ysbyty a feirniadwyd yn yr adroddiad

Noda'r adroddiad ymhellach bod sail i'r gŵyn nad oedd y bwrdd iechyd na'r cyngor wedi rhoi atebion i'r teulu wedi i Mrs Jones farw.

Fe wnaeth y cyngor roi eu hymateb chwe mis ar ôl y bwrdd iechyd.

Fe wnaeth yr adroddiad argymell bod y ddau sefydliad yn ymddiheuro'n llawn i deulu Mrs Jones ac y dylai'r bwrdd iechyd dalu £5,000 am y gofid a achoswyd, a nodwyd y dylai staff gael adborth ac hyfforddiant er mwyn dysgu gwersi o'r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd Gill Harris, dirprwy brif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Ry'n ni'n ymddiheuro yn fawr am y methiannau gofal a'r ffordd yr ymdriniwyd â'r gŵyn wedyn.

"Ry'n ni'n derbyn y canfyddiadau a'r argymhellion yn llawn ac yn gweithio gyda thimau iechyd perthnasol i sicrhau y gwelliannau angenrheidiol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych eu bod "yn ymddiheuro'n fawr" am y gofid a achoswyd i'r teulu a'u bod wedi anfon ymddiheuriad ysgrifenedig i'w gŵr.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae'r cyngor yn derbyn yn llawn y canfyddiadau a'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad ac rydym yn sicrhau bod rhain yn cael eu gweithredu ac yn cynnwys staff ac adrannau perthnasol."