Prisiau tai: Cymru'n gweld y cynnydd uchaf yn y DU
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi gweld cynnydd uwch mewn prisiau tai nag unrhyw ran arall o'r DU, yn ôl Rightmove.
Dywedodd y wefan dai fod cynnydd o 2.3% wedi bod yn y mis diwethaf yn unig, a chynnydd o 10.9% o'i gymharu â llynedd.
Yn y cyfamser dywedodd cymdeithas adeiladu Principality fod pris cyfartalog tŷ yng Nghymru bellach wedi cyrraedd £215,810.
Yn Nhorfaen a Phen-y-bont oedd y gyfradd werthu uchaf, sef 80%.
Prynwyr o du hwnt
Fe wnaeth prisiau mewn wyth sir - Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Conwy, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Thorfaen - gyrraedd eu lefel uchaf erioed yn ail chwarter 2021, yn ôl Principality.
Gwelwyd cynnydd sylweddol ym mhrisiau'r tai drytaf, gyda Rightmove yn dweud fod y rheiny bellach yn mynd am gyfartaledd o £452,370 - 18% yn uwch na llynedd.
Y pris cyfartalog ar gyfer prynwyr tro cyntaf oedd £162,197 - cynnydd o 5.4% ers Awst 2020.
Ond dywedodd Principality fod arwyddion bod y cynnydd yn arafu rywfaint, a hynny wedi i saib ar dreth gwerthu tai ddod i ben ym mis Mehefin.
"Mae Cymru wastad wedi cael ei ystyried fel lle mwy fforddiadwy, ac mae hynny wedi denu pobl sy'n gwerthu tai llawer drytach mewn ardaloedd eraill," meddai'r asiant dai, Jeanne Fry-Thomas.
"Mae hyn wedyn yn arwain at sefyllfa ble mae'r galw'n uwch na'r ddarpariaeth, ac mae prisiau'n codi."
Ychwanegodd fod ardaloedd fel Torfaen a Phen-y-bont yn gweld cynnydd uwch oherwydd y cysylltiadau trafnidiaeth cyfleus i ddinasoedd mawr y de.
Cynnydd 124% mewn galw am dai gwledig
Dywedodd Rightmove fod pobl hefyd yn chwilio am dai mwy, ac mewn ardaloedd gwledig, yn sgil pandemig Covid.
Roedd nifer y bobl o ddinasoedd yn holi am dai mewn pentrefi wedi cynyddu 124%, ac ymholiadau am dai ger yr arfordir wedi cynyddu 115%.
Ychwanegodd cyfarwyddwr data tai Rightmove, Tim Bannister fod ardaloedd fel Sir Benfro ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd ar gyfer y prynwyr newydd.
"Mae Cymru'n llawn lleoliadau prydferth ac amrywiol i fyw, a gyda gweithio o adref nawr yn opsiwn hir dymor i lawer, mae hyn wedi agor drysau newydd i brynwyr," meddai.
Mae'r ystadegau'n amlygu maint yr argyfwng i bobl ifanc sy'n dymuno prynu tŷ yn eu hardal leol, yn ôl Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith.
"Yn Sir Benfro, er enghraifft... mae tŷ teras, dwy ystafell wely gyda dim gardd yn mynd am ryw chwarter miliwn," meddai. "Os 'dach chi mo'yn bach o dir gyda fe y'ch chi'n edrych ar £400,000.
"Os nag yw pobol ifanc yn gallu fforddio tŷ yn eu hardal leol, byddan nhw'n gorfod symud o 'na. Byddan nhw ddim yn magu plant yna, bydd dim plant i fwydo ysgolion. Byddan ni'n colli'n ysgolion, colli gwasanethe a be' sy'n mynd i ddigwydd i gymunede Cymraeg wedyn?"
Mae aelodau'r Gymdeithas yn dringo i gopaon Crib Goch yr Wyddfa, Carn Ingli a Phen-y-Fan ddydd Llun i osod baneri fel rhan o'r ymgyrch Nid Yw Cymru Ar Werth.
"Rhaid tynnu sylw at y ffaith nad problem wledig yw hi, nad problem yn y gorllewin yn unig ond problem ar draws Cymru," ychwanegodd Ms Williams.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gweinidogion yn "gweithio ar frys i weithredu atebion cynaliadwy i broblemau cymhleth".
Ychwanegodd y llefarydd bod hynny'n cynnwys ymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd, a gweithio gyda phartneriaid yn cynnwys y cymunedau sydd wedi eu heffeithio waethaf, er mwyn lansio Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg yn yr hydref.
Ond dywedodd Plaid Cymru bod y ffigyrau'n "brawf pellach" bod "Cymru yng nghanol argyfwng tai".
"Ni all y llywodraeth gladdu eu pennau yn y tywod na chuddio tu ôl i 'ymgynghoriadau' neu 'gynlluniau peilot'", meddai Mabon ap Gwynfor AS.
"Mae angen ymyrraeth frys arnom - yn gyflym - i reoleiddio'r farchnad a mynd i'r afael â'r argyfwng hwn unwaith ac am byth, er mwyn ein cymunedau a'u dyfodol."
Disgwyl i'r farchnad arafu
Dyw'r ystadegau ddim yn synnu Melfyn Williams o gwmni arwerthu Williams and Goodwin yn y gogledd, ond mae'n rhagweld y bydd y farchnad yn arafu nawr bod prynwyr yn gorfod talu'r dreth trafodiadau tir unwaith yn rhagor ar dai sy'n gwerthu am £180,000 neu fwy.
"Fel rheol bob tro 'da ni wedi gweld boom... mae o'n para ryw flwyddyn, blwyddyn a hanner ar y mwya'," meddai.
"Os 'dach chi'n edrych ar brisia' tai dros y 10 mlynedd dwytha, doedd na'm llawer o newid mewn prisia' tai wedyn, wrth gwrs, mae o 'di dod yn sydyn mewn cyfnod byr.
"'Dan ni'n disgw'l rŵan i betha' jest dechra' leflo allan a dipyn bach mwy o sens, mewn ffordd, i ddod i'r farchnad a rhoi cyfle i betha dod yn ôl at ei hun i farchnad fwy traddodiadol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2021
- Cyhoeddwyd26 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021