Eco-bryder ar ôl cael plentyn: 'Ro'n i'n dod adra o siopa yn crïo'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwenllian WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

"Ar ôl geni fy mab cefais 'eco-anxiety', i'r rhai sydd ddim yn gwybod mae o reit gyffredin mewn mamau newydd i ddechrau poeni am gyflwr y byd a'r dyfodol. Mae'n 'exhausting', a mae o wedi troi fy myd!"

Mae'r term 'eco-anxiety' yn gynyddol gyfarwydd i ddisgrifio gorbryder pobl am yr amgylchedd a newid hinsawdd ac mae'n rhywbeth sy'n gallu eich llethu meddai Gwenllian Williams, wnaeth roi'r neges uchod am ei phrofiad hi ar Facebook.

Mae'n eich gwneud yn ymwybodol o bob peth, drwy'r amser, ac mae'n waith caled, meddai'r fam a'r ddynes fusnes o Ynys Môn.

"Yn bendant cael Ifan wnaeth trigro fo," meddai am enedigaeth ei mab yn 2017.

"Yn y misoedd cyntaf ers i mi gael Ifan, oedd o'n ofnadwy. Ro'n i'n mynd i siopa a jyst yn gweld bob dim mewn plastig. Ro'n i'n meddwl, un siop ydi hon, allan o'r chwech sydd ym Mangor, ac oedd o'n neud fi'n sâl.

Ffynhonnell y llun, Reuters

"Ro'n i'n dod adra o siopa bwyd yn wallgo ac yn crio, oni'n flin wrth gerdded rownd, oedd o'n afiach."

"Oni'n methu mynd am dro a joio'r dro, oni jyst yn gweld rybish a bagia yn y cloddiau, doedd na ddim byd oni'n neud yn enjoyable dim mwy, o'n i'n ypsetio am bob dim."

Dro arall, fe fyddai'n methu dal ei dagrau nôl ynghanol y siop. Wrth edrych yn ôl, mae hi'n gweld fod hormonau beichiogrwydd yn debyg o fod wedi cyfrannu at hynny ond roedd y pryder am ddyfodol ei phlentyn yn real.

Y gorbryder yn 'rhesymol'

"Es i at y doctor a dyma fo yn dweud 'mae dy anxiety di yn rational', bod na ddim byd fedran nhw wneud am y peth a bod waeth imi anghofio am y peth a chario ymlaen efo mywyd.

"Doedd hynny ddim yn plesio chwaith, achos oni'n meddwl 'os di rywun mor glyfar a chdi yn meddwl fel hyn does na ddim gobaith i'r ddaear'.

"Taswn i'n poeni am rywbeth oedd ddim yn wir, ella fysa ganddo fo dabledi i'w rhoi i mi."

Rhoddodd rif cwnselydd iddi hi, ond wnaeth hi ddim ffonio.

"Nes i jyst setlo ar wneud be fedra' i ei wneud a dyna fo. Fedra' i ddim fforddio newid fy nghar i gar trydan ond rydan ni wedi tynnu un car oddi ar y lôn, ac yn defnyddio un ar y tro - pethau bach fel'na.

"Dwi ddim yn gwylltio a mynd o nghof pan dwi'n mynd i'r siop dim mwy, achos does na'm pwynt.

"Ond rydan ni wedi newid y ffordd rydan ni'n byw yn gyfan gwbl," meddai Gwenllian sy'n rhedeg ei chwmni printiau a chynnyrch Cymreig ei hun.

Parti di-wastraff

Cyn cael ei phlentyn ei hun, roedd Gwenllian wedi gweld faint o fagiau bin llawn gwastraff di-angen oedd yn cael eu llenwi ar ôl partïon plant ei ffrindiau, ac roedd yn benderfynol o beidio syrthio i'r trap hwnnw.

Mae hi'n synnu gweld pobl mae hi'n ei hadnabod, rhai yn athrawon, yn rhoi partis llawn plastig - o faneri a phlatiau i fwâu balŵns - i'w plant.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Parti pen-blwydd un oed - dim balŵns nac addurniadau plastig ond digon o hwyl

Ar ben-blwydd cyntaf Ifan dywedodd wrth bawb nad oedd o angen anrheg, ond os oedden nhw wir eisiau rhoi, iddyn nhw roi rhywbeth roedd eu plentyn eu hunain wedi cael digon arno.

Llogodd neuadd bentref gydag offer chwarae i gael parti, rhoddodd blatiau bambŵ i'r plant a defnyddio rhai'r neuadd i'r oedolion.

Yn lle bagiau parti fe roddodd bethau di-blastig neu roedd modd eu defnyddio eto: defnydd lapio cŵyr i'r deisen; gwelltyn metel; hadau blodau gwyllt ac offeryn wedi ei wneud o bren: "Doedd na ddim wast. Doedd neb wedi lapio yr anrhegion achos mai rhai ail-law oeddan nhw, doedd na ddim addurniadau.

"Wnaethon ni ddim defnyddio dim un bag bin - sydd jyst yn dangos ei fod yn bosib."

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Gwenllian oedd y byddai teuluoedd yn ailddefnyddio'r defnydd lapio cŵyr a'r gwellt metel yn y pecyn parti

Oes ganddi gyngor ar gyfer delio gyda gorbryder ecolegol?

"Dwi'm yn siwr sut i gynghori pobl er gwell am hyn. Yr unig beth fedrai ddweud ydi, os ydych chi'n gwneud y gorau fedrwch chi, be arall fedrwch chi wneud?

"Oeddwn i'n arfer mynd yn wallgo wrth fynd am dro a gweld y sbwriel ym mhobman - rŵan fyddai'n mynd â bag efo fi i hel y sbwriel. Mae hynny'n helpu."

Tip arall yw cadw oddi ar gyfryngau cymdeithasol cymaint ag y gallwch gan fod sgrolio a darllen yn sbardun i'r gorbyrder meddai Gwenllian.

Awgrymiadau amgylcheddol Gwenllian:

  • Defnyddio dyn llefrith.

  • Siopa'n lleol - cigydd, pobydd, a llysiau os yn bosib a phrynu nwyddau rhydd (e.e. madarch rhydd - nid mewn pecyn plastig; y mwyaf o bobl sy'n dal ati i wneud hyn - y mwya' o bethau fydd ar gael i ni allan o'r plastig.)

  • Os gallwch, peidiwch â phrynu unrhyw beth os nad oes ei angen arnoch. Os oes raid, prynu'n ail-law - mewn siopau elusen, ar Ebay neu Facebook.

  • Ail-lenwi yn lle ail-brynu; mae nifer o siopau a gwefannau yn cynnig gwasanaeth ail-lenwi.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Wiliams
Disgrifiad o’r llun,

Dim plastig, a dim dim ond llefrith chwaith - mae rhai dynion llefrith yn cynnig pethau fel sudd oren a iogwrt hefyd

  • Pan yn torri gwair, gadael cudynnau o flodau gwyllt i dyfu i'r pryfaid.

  • Gwisgo mwy o ddillad pan yn oer yn lle rhoi'r gwres ymlaen.

  • Cadw jariau i'w defnyddio fel gwydrau, a photiau menyn / hufen iâ fel Tupperware. Maen nhw'n gwneud am rhyw 5/6 golch cyn torri, a wedyn eu rhoi yn yr ailgylchu. Pam talu am focsys plastic a rheiny i'w cael yn ddyddiol am ddim?

  • Moon cup ar gyfer y mis-lif. Fedrai ddim ei frolio digon! Dim panic stations yn ganol nos a maen nhw'n llai peryg; dim jesd i'r ddaear, ond i ni hefyd, mae pads a tampons yn cynnwys gymaint o gemegau peryg.

  • Rasal go iawn, dim un tafladwy - ond cadwch allan o gyrraedd plant.

  • Plannu plannu plannu! Dwi'n gwasgaru hadau blodau gwyllt yn aml, ond plannwch goed os oes gennych chi le! Maen nhw'n yfed y dŵr o'r tir, yn lleihau llifogydd, yn gartref i fywyd gwyllt ac yn glanhau'r aer i ni.

A'r cyngor olaf, yw: "Dysgu ein plant - i'r plant mae'r ddaear, mae mor bwysig fod y genhedlaeth nesaf yn ymwybodol o be' sy'n mynd ymlaen a be fedran nhw ei wneud i wella'r sefyllfa."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig