Gwrthod tystiolaeth newydd llofruddiaethau Clydach
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi nad yw euogfarn David Morris wedi cael ei thanseilio ar ôl iddyn nhw asesu tystiolaeth newydd yn gysylltiedig â llofruddiaethau Clydach yn 1999.
Cafodd Morris ei garcharu yn 2006 am guro pedwar aelod o'r un teulu i farwolaeth yn eu cartref yn y pentref yn 1999 - Mandy Power, ei mam oedrannus, Doris Dawson, a'i phlant Katie ac Emily, oedd yn 10 ac wyth oed.
Mewn rhifyn o gyfres faterion cyfoes Wales Investigates BBC Cymru fe ddaeth dau dyst newydd i'r amlwg.
Fe wnaethon nhw ddisgrifio beth roedden nhw yn ei gofio am noson y llofruddiaethau.
Ar gais cyfreithwyr Morris, ym mis Ionawr 2021 fe gyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod am asesu tystiolaeth benodol gafodd ei chyflwyno gan y rhaglen.
Erbyn hyn mae Heddlu De Cymru, ar ôl cael cyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron, wedi cadarnhau nad ydy gwybodaeth y tystion newydd yn amharu ar yr euogfarn.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Fel rhan o'r gwaith yma mae ditectifs wedi siarad gyda'r ddau dyst ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cynghori nad oes yna wybodaeth wedi ei chyflwyno sy'n tanseilio euogfarn David Morris."
Adolygiad fforensig
Ond fe gadarnhaodd y datganiad hefyd y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i dystiolaeth fforensig newydd gafodd ei chyflwyno gan Wales Investigates.
Bydd hynny yn digwydd dan oruchwyliaeth ditectifs o Heddlu Dyfnaint a Chernyw.
"Tra bydd y gwaith yma yn parhau, mae ein meddyliau yn aros gyda'r teuluoedd a'r rhai gafodd eu heffeithio gan yr achos yma a'r effaith sylweddol mae e wedi ei gael arnyn nhw."
Fe gafodd David Morris ei garcharu am oes yn wreiddiol yn 2002 ond fe gafodd yr euogfarn honno ei diddymu ar ôl apêl.
Ond daeth y rheithgor y ei ail achos i'r casgliad bod Morris yn euog ac fe gafodd ei ddedfrydu i 32 mlynedd dan glo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2017