Gall rygbi proffesiynol 'am un tymor' effeithio'r ymennydd
- Cyhoeddwyd
Mae chwarae rygbi proffesiynol am un tymor yn unig yn gallu effeithio ar ymennydd chwaraewr, yn ôl astudiaeth newydd sydd wedi cael ei weld gan y BBC.
Fe wnaeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru ddilyn tîm yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (gynt y Pro14) am flwyddyn gan brofi chwaraewyr cyn, yn ystod, ac ar ddiwedd y tymor.
Dangosodd y profion bod llif gwaed i'r ymennydd a gweithgaredd wybyddol (cognitive function) wedi dirywio yn ystod y cyfnod hwnnw, a hynny o ganlyniad i gyfergydion yn ogystal ag ergydion llai, cyson.
Yn ôl cyn-seren Cymru a'r Llewod, Shane Williams, dylai'r awdurdodau rygbi gyfyngu ar nifer yr eilyddion sy'n cael dod i'r maes er mwyn lleihau'r risg o anaf pan mae chwaraewyr ffres yn taro yn erbyn rhai sydd wedi blino.
'Fi ddim yn cofio lot'
Daw'r sylw ar effaith corfforol rygbi wrth i 200 o gyn-chwaraewyr proffesiynol ac amatur gwrywaidd a benywaidd o Gymru a Lloegr gymryd camau cyfreithiol yn erbyn awdurdodau'r gamp am fethu â'u gwarchod o risg cyfergydion ac anafiadau i'r pen.
Mae corff rheoli World Rugby wedi croesawu'r ymchwil newydd gan ddweud eu bod wedi ymroi i "ddwblu ein buddsoddiad mewn lles chwaraewyr, a chamau ac ymchwil newydd i gyfergydion".
Fe gafodd Shane Williams sawl anaf i'w ben yn ystod ei yrfa, gan gynnwys un dacl nerthol a gafodd gan Bakkies Botha o Dde Affrica yn 2004.
"Doedd e ddim nes i fi fynd 'nôl i'r gwesty rai oriau wedyn nes i sylweddoli mod i ddim yn dda iawn," meddai'r prif sgoriwr ceisiau yn hanes tîm Cymru.
"Fi ddim yn cofio lot am newid ar ôl 'ny, gweld y chwaraewyr ac aelodau'r teulu yn y stadiwm, roedd e fel mod i allan ohoni am gwpl o oriau.
"Peth nesa', o'n i yn y gwesty eto, eistedd yn y dderbynfa ac yn meddwl, 'beth ddigwyddodd fan 'na?'"
Wrth ystyried effaith y gamp ar ei gorff dros y blynyddoedd, mae Shane Williams nawr yn cwestiynu a yw ei ymennydd hefyd wedi dioddef niwed.
"Fi wastad yn meddwl ydy fy nghof i'n dirywio achos mod i'n heneiddio?" meddai.
"Fi bob tro yn sgwennu pethau lawr beth bynnag - ai oedran fi yw e? Neu achos fi 'di cael cymaint o ergydion dros y blynyddoedd?"
'Pob un wedi dirywio'
Yn wahanol i gyfnod Williams, mae chwaraewyr bellach yn cael eu hasesu os ydyn nhw'n cael eu hamau o fod wedi dioddef cyfergyd, ac yna'n gallu cael eu hatal rhag dychwelyd i'r maes.
Ond mae astudiaethau wedi awgrymu bod chwaraewyr rygbi proffesiynol yn profi hyd at 11,000 o ergydion gwahanol bob tymor, ac felly nad cyfergydion amlwg yw'r unig fygythiad i'w hiechyd yn y tymor hir.
Yn yr ymchwil gan Brifysgol De Cymru, fydd yn cael ei gyhoeddi yn y Journal of Experimental Physiology, dim ond chwech cyfergyd gafodd eu cofnodi yn ystod y tymor cyfan ymhlith holl chwaraewyr y clwb gafodd eu dilyn.
Ond, rhwng dechrau a diwedd y tymor, fe welwyd dirywiad yn llif y gwaed i'r ymennydd a gweithgaredd wybyddol ym mhob un o'r chwaraewyr.
Dywedodd yr Athro Damian Bailey fod dilyn y chwaraewyr "hyd yn oed dros gyfnod byr" wedi dangos "cyfradd uwch o ddirywiad yng ngweithgarwch yr ymennydd".
"Mae nifer o'r chwaraewyr yma wedi bod yn chwarae ers blynyddoedd hefyd, felly mae'n debygol fod y lefel cychwynnol eisoes wedi'i effeithio'n barod," meddai.
Ychwanegodd ei bod hi'n bryd "symud i ffwrdd o gyfergydion fel petai, a chanolbwyntio mwy ar gyffyrddiadau".
Dywedodd yr Athro Bailey fod yr ymchwil wedi dangos gwahaniaethau yn y canlyniadau rhwng gwahanol aelodau o'r garfan hefyd, gyda blaenwyr yn dangos mwy o ddirywiad nag olwyr oherwydd nifer yr ergydion cyson.
Ond doedd dim modd bod yn siŵr eto, meddai, a yw chwaraewyr amatur yn debygol o ddioddef yr un effeithiau.
"Yn y gêm broffesiynol does dim llawer o amser i adfer a gwella, mae'r chwaraewyr yn fwy ac felly mae ergydion yn debygol o gael mwy o effaith," meddai.
"Ond gydag amaturiaid mae'n bosib nad yw eu techneg nhw cystal ac felly maen nhw mewn perygl o gael ergydion i'r pen a chyfergydion.
"Mae'n anodd dweud... ond does dim rheswm i ni feddwl y byddai'r canlyniadau'n wahanol iawn."
Mae cynghrair bêl-droed Americanaidd yr NFL eisoes wedi cyflwyno cyfyngiad ar nifer y cysylltiadau sy'n cael eu caniatáu wrth ymarfer, rhywbeth mae rhai o fewn y byd rygbi hefyd eisiau efelychu.
Mae eraill wedi galw ar ganiatáu i eilyddion ddod i'r cae dim ond os ydy chwaraewr wedi brifo, yn hytrach na fel pâr ffres o goesau allai anafu gwrthwynebydd blinedig.
Mwy o ymchwil
Dywedodd World Rugby eu bod yn croesawu ymchwil Prifysgol De Cymru, a'u bod wrthi hefyd yn cynnal eu hymchwiliadau eu hunain ar effaith ergydion wrth ymarfer.
"Rydym yn croesawu pob ymchwil all helpu a chefnogi ein strategaeth ddiweddar i sicrhau mai rygbi yw'r gamp fwyaf blaengar ar les chwaraewyr," meddai'r corff.
"Mae hynny wrth galon popeth rydyn ni'n ei ddweud ac yn ei wneud."
Ond o wybod beth mae'n ei wybod nawr am yr effeithiau corfforol, fyddai Shane Williams wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol yn ei yrfa?
"Mae pobl dal yn gofyn fydden i wedi newid y ffordd fi'n chwarae, fydden ni wedi peidio chwarae?" meddai.
"Ond fydden i ddim, achos nes i chwarae gêm ro'n i wrth fy modd gyda."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2021
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2020