Ailgyflwyno mesurau Covid ysgolion 'yn bosib'
- Cyhoeddwyd
Mae'n "bosib" y bydd yn rhaid ailgyflwyno rhai cyfyngiadau Covid-19 mewn ysgolion yng Nghymru, yn ôl y Gweinidog Addysg.
Dywedodd Jeremy Miles wrth siarad â BBC Cymru ei fod eisoes wedi rhoi "ymyriadau a mesurau" ar waith o'r blaen, a'i bod yn "bosib y bydd yn rhaid i ni eu rhoi nhw ar waith unwaith eto".
Mae disgyblion wedi dychwelyd i ystafelloedd dosbarth ledled Cymru yr wythnos hon, er gwaetha'r ffaith bod cyfraddau achosion Covid yn parhau i gynyddu.
Yn y tymor newydd, mae mesurau Covid ysgolion unigol yn seiliedig ar lefelau risg lleol, ond mae rhai penaethiaid wedi dweud bod angen mwy o wybodaeth gan y llywodraeth wrth symud ymlaen.
Nid yw'r defnydd 'arferol' o orchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth yn cael ei argymell mwyach, a dywedodd Mr Miles cyn gwyliau'r haf y byddai swigod ysgolion yn mynd.
Ond erbyn hyn, mae'r defnydd o orchuddion wyneb a swigod yn parhau mewn ysgolion sawl ardal.
Gan fod mesurau i fod yn seiliedig ar asesiadau risg lleol, dywedodd Mr Miles fod gan ysgolion tan 20 Medi i weithredu trefniadau newydd.
Soniodd Mr Miles am oblygiadau rheolau fel gorchuddion wyneb ar les disgyblion, ond nid oedd am ddiystyru eu defnydd chwaith.
"Rydyn ni eisoes wedi rhoi ymyriadau a mesurau ar waith, ac mae'n bosib iawn y bydd yn rhaid i ni eu rhoi nhw ar waith unwaith eto," meddai.
"Nid ydym trwy Covid o gwbl ac rydym yn parhau i fonitro hyn yn ddyddiol.
"Os ydyn ni mewn sefyllfa lle mae angen cyfyngiadau pellach, yna yn anffodus bydd y rhaid i ni wneud hynny."
Ond dywedodd mai'r flaenoriaeth yw sicrhau bod plant yn parhau i gael dysgu yn yr ysgol: "Dyna rydw i eisiau i ni barhau ei ddarparu."
A fydd plant 12-15 oed yn cael eu brechu?
Mae disgwyl i brif swyddogion meddygol pedair gwlad y DU wneud penderfyniad yn fuan ynglŷn â brechu plant 12-15 oed ai peidio.
Dywedodd y JCVI - y corff sy'n rhoi cyngor ar frechlynnau - yr wythnos diwethaf nad oeddent yn rhoi'r golau gwyrdd oherwydd "budd ymylol" y pigiad i bobl ifanc sydd â risg isel o Covid.
Ond ni wnaeth y grŵp gysidro'r buddion posib fel lleihau'r aflonyddwch i addysg, sydd bellach yn cael ei ymchwilio gan swyddogion meddygol.
Dywedodd Mr Miles ei fod yn credu efallai y gall brechu mwy o blant oed ysgol uwchradd leihau'r effaith ar fywyd ysgol.
"Gwleidyddion ydyn ni, dydyn ni ddim yn wyddonwyr, felly rydyn ni'n dibynnu ar y cyngor hwnnw," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021
- Cyhoeddwyd2 Medi 2021
- Cyhoeddwyd26 Awst 2021