Cyffro cael perfformio eto ond amheuon trefn y pàs

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Perfformiwr ar ddiwrnod cyntaf Focus Wales 2021

Mae cerddorion ac artistiaid yn dweud bod cael perfformio'n fyw eto "fel breuddwyd".

Nos Iau, cychwynnodd gŵyl Focus Wales yn Wrecsam, sy'n rhoi llwyfan i tua 300 o artistiaid, yn bennaf dan do.

Yn ôl y gantores Eädyth, mae 'na "gyffro" wedi cyfnod ble nad oedd gigio'n bosib.

Ond mae rheolwr un clwb nos yn dweud bod angen oedi cyn cyflwyno rheolau newydd i'r sector.

O ddydd Llun, bydd yn rhaid dangos pàs Covid i fynd i glybiau neu ddigwyddiadau mawr.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi mynnu fod y pasys Covid yn "syml".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyhoedd wedi ymateb yn dda i'r mesurau atal Covid, medd un o sylfaenwyr Focus Wales, Neal Thompson

Cafodd Focus Wales ei gohirio ddwywaith yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, ac i Neal Thompson, un o'r sylfaenwyr, mae'n teimlo'n "weird, ond rili dda" i'w chynnal o'r diwedd.

Mae'n rhaid i bobl ddilyn mesurau fel profion Covid llif unffordd gorfodol i gael mynd i'r ŵyl.

"Mae pawb wedi ymateb yn rili dda ac yn bositif i hynne," meddai Neal.

"Mewn ffordd, mae pobl yn deall pam 'dan ni'n gofyn am hynne gennyn nhw."

'Mor gyffrous'

Cyn perfformio yng nghlwb y Central nos Iau, dywedodd Eädyth ei bod "mor mor excited" o gael chwarae'n fyw.

"Mae 'na obviously nerves o gwmpas y lle, ond dwi mor gyffrous i fod ar y llwyfan eto, i fod o flaen cynulleidfa," meddai.

"Mae'n teimlo fel mae o ddim go iawn, ti'n gwybod? Mae'n rili neis - mae'n freuddwyd."

Ond i sawl un o'r lleoliadau sy'n cynnal gigiau Focus Wales, bydd y drefn yn newid ddydd Llun, wrth i basys Covid ddod yn orfodol yn y sector.

Disgrifiad,

"Rhaid cael ymgyrch i addysgu pobl am basys Covid," meddai Guto Brychan

Mae Guto Brychan, sy'n rhedeg Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, yn galw ar y llywodraeth i oedi.

"Mae ond 'di bod yn dair wythnos ers iddyn nhw wneud y penderfyniad, mae ond wedi cael ei basio yn y Senedd ddydd Mawrth diwethaf, ac mae'n dod i rym dydd Llun," meddai.

"Dyw e ddim yn rhoi llawer o amser i ni fel sector i gael y neges i'n cwsmeriaid bod hyn yn dod i rym Dwi ddim 'di gweld dim byd mawr gan y llywodraeth eto o ran ymgyrch farchnata'n sôn am y newidiadau."

Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo bod 'na le i ddweud wrth y llywodraeth 'dewch â'r system i fewn ond rhowch cwpl o wythnosau i ni dreialu'r systemau'."

'Mae'n syml'

Ar raglen Dros Frecwast dydd Gwener, dywedodd y prif weinidog, Mark Drakeford, bod pobl sydd wedi teithio dramor yn ddiweddar yn gyfarwydd â'r pasys yn barod.

"Dydy'r pàs Covid ddim yn rhywbeth newydd i bobl - mae pobl Cymru wedi bod yn defnyddio nhw ers misoedd," meddai.

"Mae lot o brofiadau 'da ni yn barod, ni wedi cyhoeddi gwybodaeth i bobl. Mae'n syml."

Disgrifiad o’r llun,

Rhys Underdown o'r grŵp Bandicoot

Un band sydd â sawl gig yn Wrecsam dros y penwythnos yw Bandicoot o Abertawe.

Mae'r canwr, Rhys Underdown, yn "hyderus" bydd y diwydiant yn addasu i unrhyw gyfyngiadau pellach yn y pendraw.

Ac yn bennaf oll, mae'n mwynhau cael bod ar lwyfan eto.

"Mae pobl wedi bod yn anhygoel - mae'n amlwg bod pawb wedi colli gigs gymaint â 'dan ni wedi! Ac mae hynny mor braf i'w weld."