Cyfrol sy'n rhoi 'gobaith ar gyfer y dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Brennig a darlun Efa Lois

"Mae'r Urdd wastad wedi rhoi'r platfform yma i leisiau pobl ifanc a dyna pam mae'n fudiad mor bwysig. Dyna pam mae'n rhaid i ni warchod yr Urdd."

Dyma eiriau Brennig Davies, ysgrifennwr ifanc sy' wedi golygu cyfrol newydd o gyfansoddiadau Eisteddfod yr Urdd 2020 o'r enw Deffro.

Oherwydd na fu Eisteddfod yr Urdd 2020 o ganlyniad i'r pandemig, mae'r Urdd wedi mynd ati i gyhoeddi cyfrol ar ei newydd wedd, wedi'i churadu gan ddau o gyn-enillwyr Eisteddfod yr Urdd.

Yn cydweithio gyda Brennig (Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019) oedd Efa Lois o Aberystwyth (Prif Artist Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed 2018). Efa sydd wedi dylunio'r gyfrol.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Syniadau Efa Lois ar gyfer clawr y gyfrol

Meddai Brennig, sy'n byw ym Mro Morgannwg: "Bob blwyddyn mae'r Urdd yn cyhoeddi cyfrol o gyfansoddiadau buddugol yr Eisteddfod ond oherwydd yr oedi mawr mae'r Urdd wedi gwneud rhywbeth braidd yn wahanol ac efallai mwy sbeshal i gydnabod y sefyllfa ac i ddathlu'r gwaith sy' wedi dod i'r brig."

Am y tro cyntaf erioed, mae'r gyfrol wedi'i threfnu yn ôl themâu yn hytrach na fesul cystadleuaeth, a delweddau Efa Lois yn cyd-fynd gyda'r cynnwys.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois

"Braint fawr oedd cael fy ngwahodd i olygu'r gyfrol yma, a phleser pur oedd y gwaith golygyddol," meddai Brennig, a gwblhaodd ei radd BA mewn Saesneg yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, yn ddiweddar.

"Ges i'r cyfle i ddarllen a mwynhau straeon, cerddi, dramâu ac areithiau gan rai o lenorion ifanc mwya' talentog Cymru - pobl dwi'n falch iawn o gael eu galw'n gyfoedion."

Cafodd Brennig ei synnu gan safon gwaith y cyfranwyr ifancaf: "Mae'r gwaith yn mynd lawr i flwyddyn 1 ysgol gynradd - felly plant ifanc iawn. Ond mae eu gwaith nhw o safon uchel iawn.

"Dwi'n gobeithio fydd pobl yn gallu darllen y gyfrol a'i mwynhau a gobeithio bydd ganddyn nhw obaith ar gyfer dyfodol llenyddiaeth Gymraeg achos mae'r darnau i gyd mor wahanol i'w gilydd.

"Er bod y darnau yma'n gapsiwl o gyfnod cyn-COVID, maen nhw'n delio â themâu oesol - cariad, colled, cenedl, ieuenctid, byd natur, a mwy - sydd, erbyn hyn, yn teimlo'n fwy perthnasol fyth.

"Dwi'n credu bod hi'n gyfrol arbennig - mae'r gwaith wedi bod yn aros ers dros flwyddyn i weld golau dydd ac nawr mae'r gwaith yn cael deffro, fel mae teitl y gyfrol yn dweud. Gobeithio fydd yn cynnig cysur a gobaith i bobl ar ôl cyfnod andros o anodd i gynifer ohonom."

Ffynhonnell y llun, Efa Lois

Talent ifanc

Mae Brennig yn teimlo'n gryf am rôl arbennig yr Urdd i feithrin talent ifanc, yn arbennig ar ôl ei lwyddiant ei hun yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019: "Mae'n od meddwl am fy hun yn ennill y goron achos mae'n teimlo fel amser maith yn ôl.

"Yn y cyfnod ers hynny dwi wedi parhau i ysgrifennu a pharhau i weithio ar fy nghrefft i. Beth wnaeth ennill y Goron oedd rhoi hwb a hyder i fi."

Ffynhonnell y llun, Efa Lois

Dim ond 15 oedd Brennig pan enillodd y BBC Young Writers' Award am ei stori Skinning, ac mae darnau o'i waith wedi'i gyhoeddi yn The Oxford Review of Books, The Mays Anthology 29, a blodeugerdd o gerddi a olygwyd gan Kate Clanchy, Friend: Poems By Young People.

Serch hynny, roedd golygu yn brofiad newydd iddo: "Roedd yn brofiad positif iawn - dwi erioed wedi golygu cyfrol fel hyn o'r blaen na wedi gweithio fel golygydd o'r blaen felly ar y cychwyn o'n i'n bryderus, ond wrth ddarllen yr holl waith a chael clywed lleisiau gwahanol yr awduron a'r beirdd o'n i fwy argyhoeddedig byth bod y prosiect yma'n fraint i gael bod yn rhan ohono."

Bydd y gyfrol ar gael mewn siopau llyfrau Cymraeg ac ar wefan Eisteddfod yr Urdd, ac fel e-lyfr, ar 22 Hydref 2021. Bydd Brennig ac Efa yn trafod y gyfrol ar raglen Stiwdio ar Radio Cymru, 25 Hydref am 21:00.

Pynciau cysylltiedig